Mae ein cynnig Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn newid
Mae ein rhaglen hyfforddi Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn newid.
Rydyn ni’n lansio rhaglen hunan-dywys sy'n eich arwain trwy bopeth mae angen i chi ei wybod i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol.
Dysgwch ar eich cyflymder eich hun wrth i chi weithio drwy wyth thema, gyda chyfleoedd i gwblhau modiwlau perthnasol ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Byddwch yn dysgu am:
- beth yw gofal cymdeithasol
- y Codau ymarfer proffesiynol
- cyfathrebu
- cadw pobl yn ddiogel
- cefnogi llesiant
- yr iaith Gymraeg
- rhinweddau a gwerthoedd
- paratoi ar gyfer gwaith.
Ond rydyn ni dal yma os ydych ein hangen ni. Unwaith y mis, bydd cyfle i ymuno â sesiwn ymwybyddiaeth, lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau a chael trosolwg o’n cynnig Cyflwyniad i ofal cymdeithasol.
Cyflwyniad i ofal cymdeithasol
Dysgwch fwy am ein hyfforddiant Cyflwyniad i ofal cymdeithasol newydd.
Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.