Cymerwch y cam nesaf yn eich taith iaith Gymraeg
Ymunwch â cwrs Croeso gan Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg i feithrin hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Mwy na geiriau (More than just words), yn nodi y dylai pawb sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol allu defnyddio’r Gymraeg ar lefel cwrteisi erbyn 2027. Mae hynny’n golygu gallu cyfarch a chroesawu pobl yn Gymraeg – rhywbeth sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.
Mae Croeso yn gwrs byr, cyfeillgar wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwch yn dysgu ymadroddion Cymraeg syml a defnyddiol i’ch helpu i gysylltu â’r bobl rydych chi’n eu cefnogi – a’u teuluoedd.
Hyd yn oed ychydig bach o Gymraeg – tipyn bach – gall wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi.
Os hoffech ymuno â chwrs Croeso ar-lein gyda thiwtor Dysgu Cymraeg, dyma’r dyddiadau a’r dolenni i gofrestru ar gyfer Tachwedd a Rhagfyr:
7 Tachwedd – 10.30am i 11.30am
10 Tachwedd – 5.30pm i 6.30pm
14 Tachwedd – 2.30pm i 3.30pm
5 Rhagfyr – 10.30am i 11.30am
8 Rhagfyr - 5.30pm i 6.30pm
12 Rhagfyr – 2.30pm i 3.30pm
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyrsiau, ebostiwch Iechydagofal@dysgucymraeg.cymru.
I gael mynediad i'r cwrs croeso hunan-astudio digidol, dilynwch y ddolen yma: Croeso Iechyd a Gofal | Dysgu Cymraeg