Adnodd realiti rhithwir newydd i bobl ifanc sy'n ystyried gyrfa mewn gofal
Mae Virtual Careers yn adnodd realiti rhithwir (VR) arloesol sydd wedi'i gynllunio i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc sy'n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Noddwyd yr adnodd gan Gofalwn Cymru, a datblygwyd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, Cyngor Sir Powys a Virtus Tech.
Gall myfyrwyr ledled Powys a Gorllewin Cymru ddewis o blith amrywiaeth o senarios rhithwir, rhyngweithiol sy'n dangos sut beth yw gweithio mewn gwahanol leoliadau gofal. Gallant ddysgu am y gwahanol rolau mewn gofal a'r sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i ragori mewn gyrfa mewn gofal.
Mae'r offeryn profiad gwaith rhithwir hwn yn helpu pobl ifanc i ddychmygu eu hunain mewn gyrfaoedd ystyrlon nad oeddent efallai wedi'u hystyried o'r blaen.
I ddysgu mwy am yr adnodd arloesol hwn, ebostiwch cyswllt@gofalwn.cymru.