Mwy na chwarae: sut mae cartref gofal ym Mhenarth yn dod â chenedlaethau ynghyd
Mae cartref gofal sy’n perthyn i’r awdurdod lleol ym Mhenarth yn llawn bwrlwm ac egni newydd. Bob wythnos, mae’r cyntedd yn cael ei lenwi â sŵn straeon, canu a chwerthin wrth i bobl hŷn a phlant bach ddod at ei gilydd i fwynhau sesiwn chwarae arbennig.
Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad syml gan Clare O’Tool, rheolwr cartref gofal, wedi datblygu’n bartneriaeth lewyrchus gyda’r tîm Dechrau’n Deg lleol. Drwy weithio gyda’i gilydd, maen nhw wedi creu lle sy’n rhoi cyfle i wahanol genedlaethau gysylltu â’i gilydd.
Mae hyn yn ymwneud â mwy na chael hwyl a chwarae gemau’n unig. I'r bobl hŷn, mae’r sesiynau hyn yn rhoi hwb mawr i'w llesiant. Mae ymchwil yn dangos bod cadw’n heini a threulio amser gyda phobl iau yn gallu lleihau teimladau o unigrwydd a rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas i breswylwyr. Ac mae’r manteision yr un mor amlwg i’r plant. Dywedodd Beth, sy’n gweithio i Dechrau’n Deg:
“Mae’n rhoi hwb enfawr i ddatblygiad cymdeithasol y plant. Mae’n meithrin empathi a datblygiad emosiynol. Rwy’n falch dros ben o’r sesiynau hyn.”
Fel y dywedodd un o’r preswylwyr: “Mae’n braf gweld y plant bach yn chwarae ac yn sgwrsio.” Dyma weithgaredd syml sy’n ein hatgoffa y gall cysylltiadau ystyrlon ffynnu rhwng pobl o bob oed.
Sut i fynd ati: pecyn cymorth er mwyn llwyddo
Erbyn hyn, mae “dull arloesol” y prosiect yn cael ei rannu’n fyd eang drwy Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r neges yn glir i ymarferwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru: peidiwch ag ofni cysylltu â meithrinfeydd ac ysgolion lleol.
Mae tîm y prosiect yn diolch i ddull cam wrth gam clir am eu llwyddiant, a gall unrhyw brosiect rhanbarthol ei ddilyn:
- Gwneud pethau ar raddfa fechan i ddechrau: cynnal sesiynau misol i ddechrau, cyn mynd ati i gynnal sesiynau wythnosol.
- Rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch: cynnal ymweliadau ar y cyd â’r safle ac asesiadau risg trylwyr i sicrhau bod yr amgylchedd yn addas i’r ddau grŵp oedran.
- Arweinyddiaeth: sicrhau bod rheolwyr yn rhoi cefnogaeth gref a bod partneriaid yn cyfathrebu’n glir rhwng ei gilydd.
- Partneriaeth: gweithio’n agos â theuluoedd a staff i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.
Drwy groesawu cymorth sy’n seiliedig ar gyd-gynhyrchu a pherthnasoedd, gallwn greu cymunedau lle mae pob cenhedlaeth yn teimlo eu bod yn perthyn.