Gweminar: Mynediad i Ofal preswyl i blant
Archwilio’ch Dyfodol mewn Gofal Preswyl Plant
Ydych chi’n chwilio am yrfa ystyrlon lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc?
P’un a ydych yn newydd i’r sector neu eisoes â rhywfaint o brofiad, mae gofal preswyl plant yn cynnig amrywiaeth o rolau gwerth chweil — pob un yn gyfle i roi’ch brwdfrydedd a’ch pwrpas ar waith.
Ymunwch â’n Gweminar Am Ddim
Dewch i gael eich ysbrydoli a darganfod popeth sydd angen i chi ei wybod am ddechrau neu ddatblygu’ch gyrfa mewn gofal preswyl plant.
Yn ystod y sesiwn, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n gweithio yn y sector wrth iddynt rannu:
- Eu taith bersonol i ofal preswyl
- Sut beth yw gwaith o ddydd i ddydd mewn gwirionedd
- Y cyfleoedd hyfforddi, datblygu a dilyniant gyrfa sydd ar gael ar draws y sector
Oes gennych Gwestiynau?
Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau a dysgu sut i wneud cais am gyfleoedd gwaith cyfredol.
Dewch â’ch cwestiynau gyda chi — neu gadewch i ni wybod beth hoffech ei ddarganfod wrth gofrestru.
Os oes angen cymorth arnoch i gofrestru, cysylltwch â ni: ResidentialChildcare@socialcare.wales