fbpx
Skip to main content

Learn more about Amanda Calloway

Amanda Calloway

Amanda Calloway

Gwarchodwr Plant

Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud 'mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd. Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.


Question 1: Beth wyt ti’n ei wneud ar ddiwrnod arferol?

“Ry’n ni’n gwneud llawer y tu allan, ry’n ni wrth ein bodd yn yr awyr agored! Ry'n ni’n ymweld yn rheolaidd â’r warchodfa natur, y coetiroedd, y traeth, ac yn mwynhau treulio cymaint o amser â phosib tu allan.”

Question 2: Beth yw oedran y plant rwyt ti’n gofalu amdanynt?

“Dwi wedi addasu dros y blynyddoedd a dod o hyd i’r hyn sy’n addas i fi; o chwe mis tan eu bod yn barod i fynd i’r dosbarth derbyn yn bedair oed.”

Question 3: Beth sydd wedi dy synnu fwyaf am dy swydd?

“Dwi wedi dysgu llawer a chwblhau gradd nad oedd ar gael pan o'n i'n 18. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddeall seicoleg plant a chael y gorau allan ohonyn nhw.”

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs