Amdanom ni
Ein nod
Nod Gofalwn Cymru yw helpu i ddenu mwy o bobl i weithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru a dangos yr amrywiaeth o rolau a chyfleoedd dilyniant gyrfa sydd ar gael. Drwy ddefnyddio gweithwyr gofal go iawn, rydym yn canolbwyntio ar yr heriau sy'n eu hwynebu yn ogystal â'r hyn sy'n gwneud eu gwaith yn wobrwyol ac yn werth chweil.
Sut allwn ni helpu
Yn Gofalwn Cymru gallwch:
- dysgu am y rolau sydd ar gael
- chwilio am swyddi
- mynychu hyfforddiant ar-lein am ddim
- dysgu mwy am brentisiaethau
- cael eich cyfeirio at gyfleoedd gwirfoddoli
- cael mynediad at lu o adnoddau dysgu.
- cofrestru fel llysgennad
- Cymrud rhan yn ein gwaith
At WeCare Wales you can:
Eich taith i ofal cymdeithasol
O fewn gofal cymdeithasol, gallwch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gydag oedolion a phlant. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, byddwch helpu pobl i fyw bywydau mwy cyfforddus. Byddwch yn gwella iechyd yr unigolyn trwy gymorth corfforol, emosiynol a chymdeithasol. A byddwch yn helpu pobl i ddatblygu neu gynnal eu hannibyniaeth, eu hurddas a'u parch.
Eich taith i ofal plant
Mae bod yn rhan o ddatblygiad plentyn, ei weld wrth chwarae a'i helpu i archwilio'r byd yn waith gwerth chweil. P'un a ydych am arwain tîm neu weithio i chi'ch hun gartref, mae rôl i chi.