Dysgwch fwy am Jane Alexander
Jane Alexander
Prif Swyddog Gweithredol
Mae Jane wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau yn y sector Blynyddoedd Cynnar. Ar ôl dechrau mewn rôl wirfoddol, cwblhaodd ei chymwysterau a’i hyfforddiant DPP er mwyn datblygu ei gyrfa a chyrraedd ei rôl bresennol; mae hi wedi bod yn goruchwylio darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru ers pum mlynedd a hanner.
Cwestiwn 1: Sonia wrthym am dy lwybr gyrfaol.
“Mae wedi bod yn un eitha’ hir. Ond nid dim ond fy natblygiad i sy’n plesio - mae helpu pobl eraill i ennill cymwysterau a gwybodaeth a gweld eu brwdfrydedd dros ddatblygiad plant yn hynod o werth chweil.”
Cwestiwn 2: Pa gymwysterau sydd eu hangen i weithio yn y Blynyddoedd Cynnar?
“Mae angen amynedd arnoch a’r gallu i beidio dal nôl wrth chwarae gyda phlant. Eich cyfrifoldeb chi yw eu helpu i ddatblygu a darganfod y byd.”
Cwestiwn 3: Beth yw’r peth gorau am dy swydd?
“Gweld y plant yn chwarae ac yn derbyn gofal yn eu cymunedau eu hunain. Mae bod yn rhan o hynny yn gwneud popeth yn werth chweil ac yn gwneud i chi deimlo’n eithaf arbennig.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.