Neidio i'r prif gynnwys

Jennifer England

Gweithiwr gofal

Mae Jennifer yn gweithio i HomeInstead Senior Care yng Nghaerdydd lle mae pob diwrnod yn wahanol. Mae ei rôl yn amrywio o gleient i gleient, o’u helpu i godi yn y bore i baratoi eu bwyd a rhoi meddyginiaeth.

Holi ac Ateb gyda Jennifer

Pam fod hi’n bwysig cael siaradwyr Cymraeg mewn gofal cymdeithasol?

Mae gen i rai cleientiaid sy’n siarad Cymraeg ac maen nhw’n teimlo cymaint yn fwy cyfforddus gyda fi yn siarad eu hiaith nhw.

Sut mae dy ddiwrnod arferol?

Mae pob diwrnod yn wahanol. Dyw’r gwaith ddim yn ddiflas, mae hynny’n sicr. Dydych chi ddim yn gwybod beth sydd o’ch blaen oherwydd mae anghenion pob cleient yn wahanol.

Wyt ti bob amser wedi eisiau gweithio yn y sector?

Dim o gwbl. Newidiais i fy ngyrfa ar ôl 17 mlynedd, ond dylwn i fod wedi ystyried y diwydiant gofal lot cynharach.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started