Neidio i'r prif gynnwys

Keneuoe Morgan

Dirprwy Reolwr Cartref Preswyl

Un o Lesotho yw Keneuoe yn wreiddiol. Symudodd i’r Bala ym 1997 a dechrau gweithio i Gyngor Gwynedd, lle manteisiodd ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan feistroli’r iaith yn y flwyddyn 2000. Mae Keneuoe bellach yn gweithio mewn cartref gofal, gan gefnogi pobl â dementia ac anghenion cymhleth.

Mae hyrwyddo hawliau pobl a chanolbwyntio ar yr unigolyn a’r hyn sy’n bwysig iddo yn rhan hanfodol o rôl Keneuoe. Drwy gyfathrebu â phreswylwyr yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a’u cefnogi, sy’n eu helpu i gynnal eu llesiant.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started