Dysgwch fwy am Tracy Martin-Smith
Tracy Martin-Smith
Uwch Swyddog Synhwyraidd
Mae Tracy yn gweithio gyda phobl ddall a rhannol ddall ac yn swyddog adsefydlu hyfforddedig. Mae hi’n rheoli tîm sy’n cefnogi pobl o bob oedran drwy gynhyrchu dogfennau braille a chynnal gweithdai symudedd gan ddefnyddio ffyn. Mae hi hefyd yn gweithio’n agos gyda chŵn tywys i sicrhau bod y bobl y mae hi’n eu cefnogi yn gallu mwynhau’r bywyd gorau posib.
Cwestiwn 1: Oes unrhyw gamsyniadau’n cael eu gwneud am weithio yn y diwydiant gofal?
“Mae pobl yn clywed ‘gofal cymdeithasol’ ac yn meddwl am weithwyr cymdeithasol, ond mae cymaint mwy i’r gwasanaeth na hynny, fel fy rôl i.”
Cwestiwn 2: Beth yw’r peth gorau am dy swydd?
“Cwrdd â pherson ddeng mlynedd ar ôl iddo fynd yn ddall a gweld ei fod wedi mynd i’r Brifysgol a dechrau teulu. Mae hynny wastad yn fy atgoffa fod y swydd yn werth chweil.”
Cwestiwn 3: Pa rinweddau sydd eu hangen arnat ti i wneud dy swydd?
“Mae’n rhaid i chi fod yn ofalgar. Mae hefyd angen agwedd bositif arnoch chi i helpu’r bobl rydych chi’n eu cefnogi i wynebu eu sefyllfaoedd a symud ‘mlaen drwy roi iddynt yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.