Tracy Martin-Smith
Uwch Swyddog Synhwyraidd
Mae Tracy yn gweithio gyda phobl ddall a rhannol ddall ac yn swyddog adsefydlu hyfforddedig. Mae hi’n rheoli tîm sy’n cefnogi pobl o bob oedran drwy gynhyrchu dogfennau braille a chynnal gweithdai symudedd gan ddefnyddio ffyn. Mae hi hefyd yn gweithio’n agos gyda chŵn tywys i sicrhau bod y bobl y mae hi’n eu cefnogi yn gallu mwynhau’r bywyd gorau posib.
Holi ac Ateb gyda Tracy
Oes unrhyw gamsyniadau’n cael eu gwneud am weithio yn y diwydiant gofal?
Mae pobl yn clywed ‘gofal cymdeithasol’ ac yn meddwl am weithwyr cymdeithasol, ond mae cymaint mwy i’r gwasanaeth na hynny, fel fy rôl i.
Beth yw’r peth gorau am dy swydd?
Cwrdd â pherson ddeng mlynedd ar ôl iddo fynd yn ddall a gweld ei fod wedi mynd i’r Brifysgol a dechrau teulu. Mae hynny wastad yn fy atgoffa fod y swydd yn werth chweil.
Pa rinweddau sydd eu hangen arnat ti i wneud dy swydd?
Mae’n rhaid i chi fod yn ofalgar. Mae hefyd angen agwedd bositif arnoch chi i helpu’r bobl rydych chi’n eu cefnogi i wynebu eu sefyllfaoedd a symud ‘mlaen drwy roi iddynt yr holl gymorth sydd ei angen arnynt.