Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

Fel gweithiwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i blant a phobl ifanc.

A residential child care worker helping a child make pancakes

Bod yn Weithiwr Gofal Preswyl i Blant

Byddwch yn darparu lle caredig, gofalgar a llawn hwyl i fyw ynddo, gan helpu’r plant a’r bobl ifanc i ffynnu. Byddwch yn eu helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac yn rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a sicrwydd iddynt.

Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ac yn cefnogi’r rheolwyr i sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cael eu cwblhau. Yn ogystal, bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd gyda lleoliadau addysgol, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill.

Gallwch hefyd symud ymlaen i fod yn Uwch Weithiwr Gofal Plant, Dirprwy Reolwr neu Reolwr y cartref preswyl.

Gwybodaeth am y gweithle

Mae cartrefi preswyl i blant hefyd yn cael eu galw’n gartrefi plant. Maen nhw’n rhywle lle gall plant a phobl ifanc fyw os nad ydyn nhw’n gallu bod gartref gyda’u teuluoedd eu hunain.

Dechrau arni fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc
  • sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
  • natur ofalgar, gefnogol ac amyneddgar
  • cymhelliant a phenderfyniad
  • y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a newidiol
  • hyder wrth ddelio â phlant, pobl ifanc ac oedolion
  • y gallu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol
  • y gallu i weithio’n dda mewn tîm.

Cymwysterau Gofynnol

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ragor o wybodaeth am y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.