Rheolwr Gofal Preswyl i Blant
Fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn pennu'r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu'r gwaith o redeg y cartref yn effeithiol.
Bod yn Rheolwr Gofal Preswyl i Blant
Bydd gennych wybodaeth drylwyr am y cynllun gofal ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sy’n byw yn y cartref. Byddwch yn gyfrifol am gwblhau cofnodion cyfredol ar gyfer preswylwyr, unrhyw ddogfennau rheoleiddio a rheoli prosesau recriwtio a disgyblu.
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth, arweiniad a chefnogaeth i staff gan sicrhau bod staff yn glynu wrth bolisïau, deddfwriaeth a rheoliadau’r cwmni, a bod yr holl gynlluniau gofal a safonau’n cael eu bodloni. Byddwch hefyd yn goruchwylio ac yn mynychu cyfarfodydd gyda lleoliadau addysgol, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill.
Gwybodaeth am y gweithle
Mae cartrefi preswyl i blant hefyd yn cael eu galw’n gartrefi plant. Maen nhw’n rhywle lle gall plant a phobl ifanc fyw os nad ydyn nhw’n gallu bod gartref gyda’u teuluoedd eu hunain.
Dechrau arni fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant
I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- sgiliau arwain a rheoli da
- sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- cymhelliant a phenderfyniad
- y gallu i roi sylw trylwyr i fanylion, gan wneud yn siŵr bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi yn yr holl waith papur
- natur ofalgar, gefnogol ac amyneddgar
- hyder wrth ddelio â phlant, pobl ifanc ac oedolion
- y gallu i roi cyfarwyddiadau a goruchwylio aelodau eraill o'r tîm.
Cymwysterau Gofynnol
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ragor o wybodaeth am y cymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen i chi hefyd fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch chi wneud cais i gofrestru neu chwilio drwy'r gofrestr ar-lein.