Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i Ofal Plant drwy gyfrwng y Gymraeg

Rhaglen hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg un diwrnod am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru, sy'n cynnwys yr hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

Archebwch eich lle
Childminder Mo playing outdoors with two children

Ynglyn â’r hyfforddiant

Mae’r sesiwn Cyflwyniad i Ofal Plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn sesiwn ar-lein am ddim i oedolion sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r sesiwn yn rhoi trosolwg o weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant ac yn eich helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael. Byddwch yn clywed gan bobl sy’n gweithio yn y sector ac yn cael cymorth i ystyried eich camau nesaf tuag at hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae'r galw am weithwyr gofal plant sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith yn cynyddu. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael a deall sut y gall eich sgiliau Cymraeg agor y drws i yrfa werth chweil yn y sector. 

Yn ystod y sesiwn byddwch yn:

  • dysgu am y gwahanol rolau a lleoliadau gwaith yn y sector
  • clywed gan weithwyr profiadol am eu profiadau o weithio mewn gofal plant
  • cael gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a datblygu
  • darganfod sut y gall eich sgiliau Cymraeg eich helpu i ddilyn gyrfa yn y sector
  • cael gwybodaeth am gyfleoedd profiad gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth
  • cael cymorth i ystyried eich camau nesaf tuag at gyflogaeth neu hyfforddiant.

Pwy ddylai fynychu?

Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer:

  • pobl sy’n ystyried gyrfa yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • pobl sy’n ystyried newid gyrfa neu ddychwelyd i waith
  • siaradwyr Cymraeg sydd eisiau defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle
  • prentisiaid neu staff newydd mewn lleoliadau gofal plant
  • unrhyw un sydd eisiau dysgu mwy am y sector.

Hawli i weithio

Dim ond i unigolion sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru ar adeg cofrestru ar ei chyfer y mae ein rhaglen Cyflwyniad i ofal plant. Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, dim ond os ydych yn byw yng Nghymru ac yn meddu ar fisa sy'n rhoi'r hawl i chi weithio yn y DU y gallwch gofrestru ar gyfer y rhaglen. Wrth gofrestru ar gyfer y rhaglen, mae'n ofynnol i ymgeiswyr hunan-ardystio, os nad ydynt yn ddinesydd Prydeinig, eu bod wedi derbyn ac yn parhau i ddal fisa i weithio yn y DU a'u bod yn gallu profi eu caniatâd mewnfudo cyfreithlon a dilys.

Sylwch, ni allwn roi cyngor ar fewnfudo. Mae’n bosibl y bydd cyngor a chymorth perthnasol ar gael gan:

Pethau i'w gwybod

Nid yw hwn yn gymhwyster achrededig.

I weithio ym maes gofal plant, bydd angen i chi gael rhai gwiriadau i wneud yn siŵr eich bod yn addas i weithio yn y sector. Byddwn yn eich helpu gyda'r rhain. Bydd hyn yn cynnwys rhywbeth o'r enw Gwiriad System Datgelu a Gwahardd (DBS) i wneud yn siŵr eich bod yn gallu gweithio ym maes gofal plant.

Ar gyfer noddwyr a hawliau gweithio ewch i Lywodraeth Cymru.
 

Beth sy’n digwydd wedyn?

Ar ôl cwblhau’r sesiwn, byddwch yn cael cymorth i ystyried eich camau nesaf tuag at hyfforddiant neu gyflogaeth. Gall hyn gynnwys cyfnod byr o brofiad gwaith mewn lleoliad gofal plant, gan roi cyfle i chi gael profiad ymarferol o weithio yn y sector a’ch helpu i benderfynu ai dyma’r yrfa gywir i chi. 

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni drwy cyflwyniadiofalplant@gofalcymdeithasol.cymru

I weld sut rydyn ni'n defnyddio, yn storio ac yn dileu eich gwybodaeth, darllenwch: Polisi Preifatrwydd | Gofalwn Cymru