Cymryd rhan
Ydych chi'n angerddol am ofal cymdeithasol neu ofal plant? Ydych chi eisiau rhannu eich profiadau ac ysbrydoli eraill? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Cymerwch ran gyda Gofalwn Cymru
Yn Gofalwn Cymru, rydym yn angerddol am dynnu sylw at y rolau amrywiol mewn gofal cymdeithasol a gofal plant, a’r lleoliadau unigryw lle gallwch wneud gwahaniaeth. Rydym ar genhadaeth i ysbrydoli mwy o bobl i ymuno â'r sector gofal yng Nghymru.
Os ydych chi'n gyffrous i arddangos eich rôl neu'ch gweithle, rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Rhannwch eich stori a helpwch ni i drawsnewid dyfodol gofal.
Sut i gymryd rhan
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan, efallai yr hoffech chi:
- Rhannwch eich stori - amlygu eich taith a'ch angerdd am ofal mewn astudiaeth achos neu erthygl newyddion
- Hyrwyddo y sector - arddangos y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant
- Ysbrydoli eraill - ysgogwch eraill i ystyried gyrfa foddhaus mewn gofal trwy eich stori
Ffyrdd o gymryd rhan
Yma gallwch ddod o hyd i rai enghreifftiau o'r hyn rydym wedi'i wneud o'r blaen:
Ffurflen mynegi diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb hon a bydd rhywun yn cysylltu â chi yn fuan.