Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i ofal plant

Rhaglen hyfforddiant am un ddiwrnod am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n cynnwys yr hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

Neilltuwch eich lle

Am yr hyfforddiant

Mae'r cwrs Cyflwyniad i ofal plant yn rhoi trosolwg o weithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar. Mae'n cyflwyno meysydd craidd sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant, yn rhoi gwybodaeth am opsiynau gyrfa ac yn egluro pa rinweddau sydd eu hangen ar weithwyr.

Mae gan bob cwrs siaradwyr gwadd a llysgenhadon sy'n sôn am y realiti o weithio ym maes gofal plant a'r blynyddoedd cynnar.

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Gyrfa Cymru i'ch cefnogi wrth chwilio am waith a hyfforddiant. Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.

I weithio ym maes gofal plant, bydd angen i chi gael gwiriadau i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector. Byddwn yn eich helpu gyda'r rhain. Bydd hyn yn cynnwys rhywbeth o'r enw gwiriad System Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau eich bod yn gallu gweithio ym maes gofal plant.

Cynnwys y cwrs yn cynnwys:

  • rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar
  • trosolwg o rolau swyddi a’u lleoliadau
  • hawliau plant
  • lles
  • gweithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar y plentyn
  • chwarae
  • Yr iaith Gymraeg a chyfathrebu
  • iechyd a diogelwch
  • atal a rheoli heintiau
  • diogelu
  • Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY) sy'n darparu gwybodaeth benodol am ddod yn Warchodwr plant
  • llysgenhadon
  • cyngor a chymorth i gael gwaith gan Gyrfa Cymru.


Manylion y cwrs

CostAm ddim
HydUn ddiwrnod rhwng 10am-2pm
CyfyngiadauRhaid i chi fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru
CymhwysterDim cymwysterau gofynnol
LleoliadAr-lein drwy Zoom

Pethau i'w gwybod

Nid yw hwn yn gymhwyster achrededig.

Ar gyfer noddwyr a hawliau gweithio – ewch i Lywodraeth Cymru.

Dod o hyd i waith

Ar ddiwedd y rhaglen byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi i ddarparu adnoddau defnyddiol i chi a'ch cynorthwyo a'ch cefnogi i chwilio am swyddi gwag sydd ar gael. Ni allwn sicrhau y byddwch yn cael swydd ym maes gofal plant, ond byddwch mewn sefyllfa dda i ddod o hyd i waith.

"Cwblheais y Cwrs Cyflwyniad i ofal plant ac yn ddiweddar rwyf wedi cofrestru fel Gwarchodwr Plant.

Rydw i ar fin dechrau ar fy nghymhwyster Gofal Plant Lefel 3 er mwyn i mi allu cofrestru fel Gwarchodwr Plant Dechrau'n Deg."
Hannah Townsend
A Introduction to childcare completer who sent in a positive quote about the course.

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni drwy cyflwyniadiofalplant@gofalcymdeithasol.cymru