fbpx
Skip to main content

Llysgenhadon Gofalwn

Rôl Llysgenhadon Gofalwn Cymru yw codi proffil gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Mae Llysgenhadon Gofalwn Cymru yn helpu i addysgu pobl am y gwahanol ddewisiadau gyrfa a chyfleoedd i ddatblygu sydd gan y sector i’w cynnig.

Beth yw Llysgennad Gofalwn?

Mae’r Llysgenhadon Gofalwn yn bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Drwy rannu eu hangerdd dros ofal, mae ein Llysgenhadon Gofalwn yn rhoi sylw i’r bobl sy’n gweithio yn ein sector tra’n annog eraill i ystyried gyrfa mewn gofal.

O ysbrydoli pobl ifanc sy’n gadael ysgol i ystyried gyrfa mewn gofal i fynychu ffair swyddi i siarad â phobl am newid gyrfa, bydd ein Cenhadon Gofalwn yn helpu i drawsnewid dyfodol gofal.

Gall hyn gynnwys:

  • Cyflwyniadau i fyfyrwyr ysgol neu goleg
  • Sgyrsiau neu drafodaethau anffurfiol
  • Mynychu ffeiriau gyrfa neu swyddi, digwyddiadau neu gynadleddau.
Beth yw’r manteision fel cyflogwr?

Yn ogystal â chefnogi gweithiwr i rannu ei angerdd a’i sgiliau ag eraill, mae llawer o fanteision i sefydliadau sy’n cyflogi Llysgennad Gofalwn, fel:

• Datblygu ac ysgogi staff
• Gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiad gweithlu’r dyfodol
• Codi proffil y sefydliad fel cyflogwr o ansawdd.


Mae ein Llysgenhadon Gofalwn yn adnodd recriwtio effeithiol a phwerus. Maen nhw’n sicrhau bod y sector yn parhau i ddenu’r bobl iawn â’r gwerthoedd iawn. Os oes gennych weithiwr neilltuol, gallwch ei enwebu i ddod yn llysgennad.

Dysgwch fwy yma

Sut alla i ddod yn Llysgennad Gofalwn?

Rydym yn chwilio am bobl a all ysgogi ac ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth drwy ystyried gyrfa mewn gofal.

Gall Cenhadon Gofalwn fod ar unrhyw lefel o’u gyrfa ond mae’n rhaid iddynt fod yn ymrwymedig, yn hyderus ac yn gyfathrebwyr gwych. Gan fod y rôl hon yn wirfoddol, bydd angen cefnogaeth eich cyflogwr arnoch.

Dod yn Llysgennad Gofalwn

Pam ddylwn i ddod yn Llysgennad Gofalwn?

Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth a rhoi rhywbeth yn ôl i sector ry’ch chi’n angerddol yn ei gylch, mae llawer o fanteision i ddod yn Llysgennad Gofalwn:

  • Byddwch yn datblygu hyder a sgiliau ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus
  • Bydd yn ychwanegiad da i’ch CV
  • Byddwch yn hyrwyddo gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar ac yn helpu i siapio gweithwyr y dyfodol.
Dyma Rachel Williams, Llysgennad Gofalwn

Ymunodd Rachel â’r sector fel Cynorthwyydd Dosbarth a sylweddolodd yn gyflym gymaint yr oedd hi’n mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u gweld yn datblygu. Mae hi bellach yn cefnogi teuluoedd trwy Dechrau’n Deg yn Ynys Môn ac yn rhannu ei hangerdd dros weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant fel Llysgennad Gofalwn Cymru.

C1: Beth yw’r her fwyaf rydych chi wedi’i hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf?

“Nid oeddem yn gallu gweld teuluoedd wyneb yn wyneb felly roedd yn rhaid i ni addasu’n eithaf cyflym i sicrhau eu bod yn dal i gael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt.”

C2: Sut ydych chi’n gwneud gwahaniaeth trwy eich rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru?

“Rwy’n cael rhannu fy angerdd i hyrwyddo’r sector a hefyd helpu pobl nad ydyn nhw efallai’n gwybod pa rolau sydd yna a beth hoffen nhw eu gwneud.”

C3: Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch chi i fod yn Llysgennad Gofalwn Cymru?

“Gall unrhyw un sydd ag angerdd am weithio ym maes gofal ac sydd eisiau helpu eraill i fynd i mewn i’r sector fod yn Llysgennad Gofalwn Cymru.”

Dyma Lorna Jones, Llysgennad Gofalwn

Ar ôl ymuno â’r sector mewn rôl ran-amser, mae Lorna wedi bod yn gweithio ym maes gofal ers dros 10 mlynedd ond mae’n difaru na wnaeth hi ystyried yn llawer cynt. Ochr yn ochr â’i rôl fel rheolwr Cartref Gofal Meddyg Care i gleifion sydd â dementia yng Nghriccieth, mae’n rhannu ei hangerdd dros y sector trwy ei rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru.

C1: Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am weithio mewn gofal?

“Gall fod yn emosiynol iawn ar brydiau, ond mae’n deimlad gwych o wybod eich bod chi wedi gwneud rhywbeth positif i rywun arall.”

C2: Beth allwch chi ei rannu a allai helpu rhywun sy’n ystyried gyrfa mewn gofal?

“Rhowch gynnig arni. Mae yna bobl sy’n ymuno â’r sector yn meddwl nad ydyn nhw’n mynd i’w fwynhau, ond ar ôl dwy i dair wythnos, maen nhw’n sylweddoli nad ydyn nhw eisiau gwneud unrhyw beth arall ac yn gwybod eu bod nhw wedi gwneud y dewis iawn! ”

C3: Pa mor bwysig yw eich rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru?

“Mae’n bwysig cyfleu’r neges i ddangos i bawb pa mor bwysig yw’r sector a’r hyn y gallwch chi ei gyflawni. Mae cymaint o wahanol rannau i ofalu nad yw pobl yn gwybod amdanynt.”

Archebwch Lysgennad Gofalwn Cymru