Torri stereoteipiau yn y blynyddoedd cynnar: effaith ymarferwyr gwrywaidd
Ers 25 mlynedd, mae Meithrinfa Gofal Dydd Hollies yn Nhreganna, Caerdydd wedi bod wrth galon y gymuned, gan ddarparu awyrgylch hapus ac hamddenol lle gall plant ffynnu. Mae'n cynnig 148 o leoedd i blant rhwng chwe wythnos a pump mlwydd oed, ochr yn ochr â gofal cofleidiol i blant sy'n mynychu ysgolion cynradd lleol.
Mae amrywiaeth y tîm yn Hollies yn chwarae rôl enfawr wrth greu amgylchedd sy'n gyfoethog o ran cyfleoedd dysgu a phrofiadau chwarae. Siaradodd Tracey, rheolwr Hollies, â ni am fanteision gweithlu amrywiol, gan gynnwys y rôl bwysig y mae staff gwrywaidd yn ei chwarae mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Pa fanteision unigryw mae ymarferwyr gwrywaidd yn eu rhoi i'r plant?
Mae Tracey yn disgrifio'r ymarferwyr gwrywaidd yn Hollies fel "modelau rôl hynod gadarnhaol, amrywiol". Mae eu presenoldeb gweithredol, gofalgar yn arbennig o werthfawr i blant a allai fod â chysylltiad cyfyngedig â ffigurau gwrywaidd yn eu bywydau bob dydd. Maent yn dangos bod gofalu am blant ifanc ac addysgu yn broffesiwn sy'n agored i bawb.
Mae Tracey yn dweud bod ymarferwyr gwrywaidd wedi dod â hyder a brwdfrydedd ychwanegol wrth gefnogi cyfleoedd chwarae mentrus diogel sydd wedi'u rheoli'n dda, gan ychwanegu at yr ystod o brofiadau sydd ar gael i'r plant.
Sut mae teuluoedd yn ymateb i ymarferwyr gwrywaidd?
Mae cael ymarferwyr gwrywaidd yn Hollies wedi helpu i herio rhagdybiaethau am rolau rhywedd nid yn unig i'r plant ond i deuluoedd.
Er bod rhai cwestiynau gan rieni i ddechrau, mae Tracey yn esbonio bod cadw cyfathrebu agored â theuluoedd yn golygu bod rhieni yn "dawelach eu meddwl".
Nawr, mae'r ymarferwyr gwrywaidd yn rhan greiddiol o fywyd bob dydd yn Hollies. Mae eu presenoldeb wedi annog mwy o dadau ac aelodau gwrywaidd o deuluoedd i ymgysylltu â bywyd yn y meithrin a theimlo'n gyfforddus yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am ddysgu a datblygiad eu plant.
Pa gyngor sydd gennych i reolwyr a darpar ymgeiswyr gwrywaidd?
Dywed Tracey, "100%, rhowch gynnig arni. Mae'r plant wrth eu bodd yn cael ymarferydd gwrywaidd yn y feithrinfa".
Yn ôl profiad Tracey, mae gweithlu amrywiol yn cyfoethogi'r profiadau sydd ar gael i blant ac yn helpu i greu tîm sy'n adlewyrchu'r gymuned.
I ddynion sy'n ystyried yr yrfa hon, dywedodd:
"Cewch yr hyder i'w ddilyn. Peidiwch â gadael i stereoteipiau ddylanwadu ar eich penderfyniad. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â chymryd y naid, mae gweithio fel ymarferydd cyflenwi yn ffordd wych o brofi'r dyfroedd. Mewn gwirionedd, dyna'n union sut y syrthiodd yr ymarferydd gwrywaidd presennol yn Hollies mewn cariad â'r proffesiwn cyn cymhwyso fel Addysgwr Blynyddoedd Cynnar."