Gofalwn Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
Ar ddydd Mawrth, 4 Awst, teithiodd Gofalwn Cymru i Sir Benfro i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg
Am hanner dydd, cyhoeddodd Gofal Cymdeithasol Cymru enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg mewn seremoni ar y maes.
Mae'r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod y seremoni, siaradodd ein Llysgennad Gofalwn Cymru, Susan James, am ei phrofiad yn gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal.
Mae Susan yn gweithio fel Uwch Swyddog Datblygu Gofal Plant yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin. Mae Susan yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol i leoliadau gofal plant, gan helpu i hyrwyddo gwelliant parhaus.
Nid yn unig ydy darparu gofal plant trwy’r Gymraeg yn cefnogi datblygiad ieithyddol, cymdeithasol ac emosiynol plant, meddai Susan, ond:
‘Mae mynediad at ofal cyfrwng Cymraeg yn cefnogi’r nod ehangach o hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau ar yr un pryd fod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad cyfartal at wasanaethau o ansawdd uchel yn yr iaith o’u dewis.’
Mwy Na Geiriau
Wrth stondin Mwy Na Geiriau, buodd Gofalwn Cymru yn hyrwyddo a dathlu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Cymru, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mwy Na Geiriau yw cynllun Llywodraeth Cymru i wreiddio'r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol fel bod pobl yn cael y gofal maen nhw’n ei haeddu a’i angen.
Buon ni’n trafod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal ac yn annog pobl i gwblhau ein harolwg. Bydd ymatebion i’r arolwg yn helpu siapio ein gwaith yn y dyfodol.
Os hoffech chi arddangos pwysigrwydd a gwerth yr iaith Gymraeg yn eich lleoliad gofal, ymwelwch â’n gwefan ac archwiliwch ein pecyn cymorth iaith Gymraeg.