Myfyrwyr yn helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant Torfaen trwy bartneriaeth gyffrous Dechrau’n Deg
Mae partneriaeth newydd rhwng Blynyddoedd Cynnar Torfaen a Choleg Gwent yn agor y drws i fyfyrwyr gael profiad ymarferol gyda gofal plant tra’n helpu plant a theuluoedd i fwynhau cyfleoedd dysgu chwareus, croesawgar a chefnogol ar draws y gymuned.
Partneriaeth gydag effaith cymunedol go iawn
Lansiwyd y rhaglen lleoli fis Medi diwethaf gan Claire Fish, Swyddog Ymgysylltiad Gofal Plant Dechrau’n Deg ac arweinydd cydlynu myfyrwyr a gwirfoddolwyr. Gan weithio gyda Choleg Gwent, mae’r rhaglen nawr yn cefnogi chwe myfyriwr o Barth Dysgu Torfaen sy’n astudio cymwysterau Lefel 2 a lefel 3 iechyd a gofal cymdeithasol, ac maen nhw’n paratoi i wirfoddoli trwy gydol yr haf.
Dysgu trwy chwarae
Mae myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Ymgysylltiad Gofal Plant Dechrau’n Deg i baratoi gweithgareddau, cefnogi plant yn ystod sesiynau ac yn helpu i greu lleoedd cynnes, cynhwysol ble mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Ar hyd y ffordd, maen nhw’n datblygu sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu, trefnu, creadigrwydd a datrys problemau, fel rhan o dîm profiadol a chefnogol.
“Rwy’ wedi mwynhau fy amser gyda staff Blynyddoedd Cynnar Torfaen yn fawr iawn, yn gwylio ac yn diweddaru fy ngwybodaeth am deuluoedd yn Nhorfaen."
Profiad ymarferol ar draws Torfaen
Mae myfyrwyr yn cael profiad ar draws gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Dechrau’n Deg Torfaen, gan gynnwys mewn Canolfannau Integredig i Blant Dechrau’n Deg. Maen nhw wedi cefnogi sesiynau galw heibio a chwarae, sesiynau ysgol y goedwig, rhaglenni rhianta a Chymorth Iaith Gynnar, yn ogystal â darpariaeth meithrinfa. Yr haf yma, maen nhw hefyd wedi cefnogi cynllun ailgylchu Cyfnewid Nid Siopa’r tîm, sy’n galluogi teuluoedd i roi dillad babanod a phlant a chyfnewid eitemau ar gyfer rhoddion eraill a dderbynnir.
Mae un fyfyrwraig, Evie Archer, 17 oed gyda’r tîm ar hyn o bryd ac mae’n bwriadu parhau fel gwirfoddolwr. Mae hi wedi mwynhau’n arbennig cefnogi Swyddogion Ymgysylltiad Dechrau’n Deg mewn sesiynau wythnosol galw heibio a chwarae ac mae hi hefyd wedi helpu yn sesiynau Ysgol y Goedwig, Llanyrafon ar fore Dydd Mawrth, ble mae hi wedi bod yn rhan werthfawr o’r gefnogaeth sydd ar gael i blant a theuluoedd.
Dywedodd Evie: “Rwy’ wedi mwynhau fy amser gyda staff Blynyddoedd Cynnar Torfaen yn fawr iawn, yn gwylio ac yn diweddaru fy ngwybodaeth am deuluoedd yn Nhorfaen. Rwy’ wedi mwynhau cefnogi sesiynau Ysgol y Goedwig a gwylio’r plant bach yn dysgu yn yr awyr agored, yn ogystal â helpu i osod y sesiwn. Rwy’n gwybod y bydd yr holl brofiad yma’n helpu gyda fy ngyrfa o fod yn nyrs pediatrig yn y dyfodol.”
Adeiladu hyder, sgiliau a dyfodol mwy disglair
Mae’r rhaglen myfyrwyr a gwirfoddolwyr Blynyddoedd Cynnar wedi ei chynllunio dysgu a datblygiad plant trwy chwarae, gan gryfhau cefnogaeth i deuluoedd yn y gymuned leol. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr a gwirfoddolwyr i adeiladu hyder, cael profiad ymarferol a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a all gefnogi addysg y dyfodol neu gyfleoedd gwaith.
Gwneud gwahaniaeth pob dydd
Gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar, mae myfyrwyr a gwirfoddolwyr yn helpu i:
Gynllunio a gosod gweithgareddau chwarae diddorol.
Cefnogi dysg, hyder a datblygiad plant trwy chwarae.
Creu lleoedd diogel, croesawgar a chefnogol i deuluoedd.
Cyfrannu at sesiynau sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned leol.
Defnyddio empathi, creadigrwydd a threfniadaeth i helpu teuluoedd i gael profiadau cadarnhaol.
Trwy ddod ag addysg, arbenigedd blynyddoedd cynnar a chefnogaeth gymunedol ynghyd, mae’r rhaglen yn helpu plant a theuluoedd i ffynnu ac yn rhoi profiad gwerthfawr i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal plant ble mae hynny bwysicaf.