Y daith o Gynlluniau Chwarae i Warchod Plant: Fy hanes i fel gweithiwr gofal

Fy rôl heddiw
Ar hyn o bryd, rwy’n warchodwr plant—ond rwy’n gwneud llawer mwy na hynny. Rwy’n addysgwr, yn swyddog cymorth cyntaf, yn lanhawr, yn gwnselydd, a hyd yn oed yn gyfrifydd, a hynny ar unrhyw adeg. Mae’n rôl sy’n gofyn am hyblygrwydd, tosturi ac ymrwymiad dwfn i lesiant plant a’u teuluoedd.
Fy nhaith
Dechreuodd fy nhaith yn Llundain gydag asiantaeth o’r enw Special People, a oedd yn darparu gweithwyr cymorth i blant ag anableddau. Doedd gen i ddim profiad ffurfiol—dim ond cefndir mewn dawns o’r coleg—ond gwelsant y potensial a rhoddasant gyfle imi.
Un o’m lleoliadau cyntaf oedd gydag elusen o’r enw Palace for All (Play and Learn and Creative Education). Y bwriad oedd helpu gyda chynllun chwarae dros y gwyliau am wythnos... ond fe arhosais yn barhaol! Arhosais am 10 mlynedd, gan ddod yn Rheolwr Chwarae yn y pen draw. Gweithiais ochr yn ochr â therapyddion ac athrawon anhygoel, gan integreiddio eu dulliau gweithredu yn ein mannau chwarae. Cefnogem deuluoedd cyfan, ac fe wnes i feithrin perthnasoedd sydd wedi para dros ddau ddegawd.
Roeddwn hefyd yn rhedeg cynlluniau gwyliau byr ar gyfer Cyngor Islington, gan greu cyfleoedd chwarae i gannoedd o blant a chynnig seibiant i nifer o deuluoedd. Parhaodd fy ngwaith gyda Special People, gan gefnogi plentyn am ddiwrnod, neu weithiau am flynyddoedd. Mae un plentyn roeddwn i’n gweithio gydag ef rhwng 5 ac 16 oed, sydd bellach yn ei 20au, yn dal i anfon negeseuon e-bost ataf heddiw.
Yn y pen draw, symudais yn ôl adref i Gymru i fagu fy mhlant fy hun. Dydy'r awydd i gefnogi eraill erioed wedi fy ngadael i. Roedd dod yn warchodwr plant yn caniatáu i mi aros yn agos at fy mhlant fy hun wrth barhau i wneud y gwaith rwy’n ei garu.
Diwrnod yn fy mywyd
Mae’n bosib ei fod yn ateb ystrydebol, ond does dim y fath beth â diwrnod “arferol” mewn gofal. Oes, mae patrwm—cysgu, byrbrydau, cinio, gofal personol—ond mae gan bob plentyn ei egni, ei anghenion a’i hwyliau unigryw ei hun. Gall cynlluniau newid ar unwaith.
Mae’r gallu i fod yn hyblyg yn allweddol. Rwy’n ymdrechu i fod yn hyblyg yn fy null gweithredu ac yn fy lleoliad, sydd yn ei dro yn annog hyblygrwydd yn y plant. Mae’n sgil hanfodol yn y byd sy’n newid yn gyson y dyddiau hyn!
Adeg na wna i fyth anghofio
Un adeg sy’n sefyll allan yw derbyn e-bost gan ddyn ifanc a gefnogais am flynyddoedd lawer. Roedd ganddo anghenion corfforol a dysgu ychwanegol, a mynychais nifer o sesiynau therapi gydag ef. Rwy’n gwybod faint yr oedd wedi’i oresgyn i anfon y neges honno, ac roedd hynny’n deimladwy iawn.
A dweud y gwir, mae pob wythnos yn dod â profiad cofiadwy newydd. Yn fwyaf diweddar, cefais y fraint o fynychu Garddwest y Brenin ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes addysg a sgiliau, a enwebwyd gan PACEY Cymru. Roedd yn brofiad balch ac yn fraint.
Pam rwy’n caru’r hyn rwy’n ei wneud
Mae’n ymwneud â’r bobl a chymuned. Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mewn argyfwng, rydyn ni’n aml yn clywed yr ymadrodd “chwiliwch am y bobl sy’n helpu”. Pobl mewn gofal ydy’r bobl sy’n helpu. Mae ein hangen ni.
Rwyf wedi chwarae rhan fach yn straeon llawer o bobl, ac rwy’n gobeithio bod pobl yn cofio amdanaf fel rhywun a oedd yn gofalu’n fawr amdanynt. Weithiau, mae’r gofal hwnnw’n gwneud byd o wahaniaeth.
Un peth y byddwn i wedi hoffi ei wybod
Ar adegau, fe fyddwch yn dyst i bethau sy’n gwbl annheg. Mae pobl yn ymladd dros yr hyn a ddylai ddigwydd yn ganiataol. Cael trafferthion na ddylai neb orfod dioddef. Mae’n anodd—ond dyna pam mae ein gwaith mor bwysig. Mae bod yno, gofalu, a chefnogi'r rhai sydd angen cymorth yn bwerus.