1
00:00:00,000 --> 00:00:04,053
Ann Davies ydw i,
a fi yw cyd-berchennog Meithrinfa Cwtsh y Clos.
2
00:00:04,087 --> 00:00:13,608
Dechreuon ni'n feithrinfa nôl yn 2014
yn syml am ein bod eisiau cynnig gofal plant i deuluoedd,
3
00:00:13,621 --> 00:00:20,675
amgylchedd awyr agored, anifeiliaid
ac ethos fferm yn rhan o'r gofal hwnnw.
4
00:00:20,695 --> 00:00:28,532
Cyn hynny roeddwn i'n athrawes gerdd peripatetig,
felly rwyf bob amser wedi gweithio gyda phlant.
5
00:00:28,566 --> 00:00:36,897
Roedd Coleg y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin
yn cynnig y cwrs gofal plant gyda'r nos,
6
00:00:36,910 --> 00:00:47,575
felly roeddwn yn gallu parhau i weithio fel athrawes gerdd peripatetig ac ennill y cymwysterau roedd eu hangen arnaf i ddod yn ymarferydd gofal plant.
7
00:00:47,602 --> 00:00:53,155
Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith,
rwy'n credu mai dyma'r swydd fwyaf anhygoel y gallwch chi ei chael.
8
00:00:53,175 --> 00:00:58,146
Mae pob diwrnod yn wahanol,
a phob plentyn yn wahanol.
9
00:00:58,179 --> 00:01:06,763
Mae'n rhaid i chi addasu'r ffordd rydych chi'n addysgu a'r ffordd rydych chi'n gofalu am y plant oherwydd bod pob plentyn yn unigryw.
10
00:01:06,790 --> 00:01:14,043
Nid oes gan deuluoedd unrhyw beth mwy gwerthfawr
i'w drosglwyddo i chi ar ddechrau'r dydd na'u plant,
11
00:01:14,057 --> 00:01:22,547
ac mae'n fraint gallu gofalu amdanynt
a'u meithrin a rhoi'r cyfleoedd rydym yn gallu eu cynnig yma iddynt.
12
00:01:22,574 --> 00:01:30,252
Rhowch gynnig arni, wir i chi, cewch chi ddim gyrfa arall
sy'n rhoi cymaint o foddhad i chi.
13
00:01:30,272 --> 00:01:39,117
Rwy'n gwybod fy mod wedi dechrau ar y gwaith yma
yn hwyrach yn fy mywyd, ond mae gennym bobl ifanc yma sy'n brentisiaid,
14
00:01:39,150 --> 00:01:45,143
pobl sydd wedi dod drwy'r ysgol,
eraill drwy gyfrwng Cwm wrth Gam gyda Mudiad Meithrin,
15
00:01:45,163 --> 00:01:55,911
ac mae'r cyfleoedd yno i chi ddechrau cael eich lefel tri,
symud ymlaen i lefel pump a gallwch ychwanegu at hyn gyda gradd.
16
00:01:55,931 --> 00:02:01,927
Mae'n fyd llawn posibiliadau,
ond ni chewch chi yrfa sy'n rhoi cymaint o foddhad i chi.
17
00:02:02,053 --> 00:02:05,200
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru