1
00:00:04,833 --> 00:00:05,727
Lisa Newall ydw i.
2
00:00:05,773 --> 00:00:07,753
Dwi'n gweithio gyda Hyfforddiant Gogledd Cymru.
3
00:00:07,787 --> 00:00:11,537
Dwi'n asesydd dysgu seiliedig ar waith
ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
4
00:00:12,343 --> 00:00:16,517
Dechreuodd fy ngyrfa ym maes gofal cymdeithasol
pan oeddwn yn 18 oed.
5
00:00:16,663 --> 00:00:22,243
Gadewais yr ysgol,
ac roeddwn yn benderfynol iawn o fod yn nyrs.
6
00:00:22,310 --> 00:00:25,223
Cefais swydd mewn cartref nyrsio lleol.
7
00:00:25,257 --> 00:00:28,877
Roeddwn wrth fy modd yn gwneud
gwahaniaeth i fywydau pobl.
8
00:00:28,910 --> 00:00:30,683
Y pethau bach.
9
00:00:30,710 --> 00:00:33,170
Bod yn gydymaith, bod yn gefn.
10
00:00:33,237 --> 00:00:40,163
Yn wreiddiol, roedd yn weithgarwch profiad gwaith,
ond wedyn cofrestrais i wneud gradd mewn nyrsio.
11
00:00:40,270 --> 00:00:42,323
Fodd bynnag, darganfyddais fy ngalwedigaeth.
12
00:00:42,350 --> 00:00:47,243
Yn y pen draw, es i i weithio yn y cartref nyrsio hwnnw,
ac yn ystod y cyfnod hwnnw,
13
00:00:47,297 --> 00:00:52,030
cefais y cyfle i wneud cymhwyster
prentisiaeth seiliedig ar waith.
14
00:00:52,383 --> 00:00:57,783
Tra'r oeddwn yn ymgymryd â'r dysgu hwnnw
ac yn datblygu fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth,
15
00:00:57,823 --> 00:01:02,103
cefais ddirnadaeth o agwedd arall
ar iechyd a gofal cymdeithasol,
16
00:01:02,130 --> 00:01:06,477
sef y sector addysg a gwella'r gweithlu.
17
00:01:07,217 --> 00:01:09,697
Pan ddechreuais i weithio yn y cartref nyrsio,
18
00:01:09,710 --> 00:01:13,637
Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth, mewn gwirionedd,
am ddysgu seiliedig ar waith neu brentisiaeth.
19
00:01:13,670 --> 00:01:17,697
Mae'r pethau hyn yn addas ar gyfer unrhyw un,
o unrhyw oedran, mewn unrhyw sector.
20
00:01:17,737 --> 00:01:22,037
Gallwch ddod o gefndir
heb unrhyw gymwysterau ffurfiol,
21
00:01:22,077 --> 00:01:25,950
neu gallech fod yn berson academaidd
- bydd prentisiaeth yn addas ar eich cyfer chi.
22
00:01:26,030 --> 00:01:30,383
Felly sylweddolais y gallwn i barhau
i weithio ac ennill arian.
23
00:01:30,430 --> 00:01:36,783
tra fy mod yn dysgu a chael profiad gwaith
gwerthfawr ochr yn ochr â'r cymhwyster.
24
00:01:36,830 --> 00:01:41,963
Roedd hynny'n ychwanegu rhagor o ddyfnder
ac yn rhoi dealltwriaeth well o rôl
25
00:01:41,997 --> 00:01:46,243
ac roedd yn fiwsig i'm clustiau.
Mwynheais hyn yn fawr.
26
00:01:46,303 --> 00:01:49,697
Byddwn yn argymell unrhyw un
i fynd i faes gofal cymdeithasol.
27
00:01:49,737 --> 00:01:54,737
Os ydych chi'n berson gofalgar,
os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl,
28
00:01:54,790 --> 00:01:56,423
gofal cymdeithasol yw'r ffordd ymlaen.
29
00:01:56,730 --> 00:02:00,723
O fewn maes iechyd a gofal cymdeithasol,
byddwch yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.