1
00:00:05,367 --> 00:00:11,277
Fy enw i yw Tayla Baker ac rwy'n gweithio yn Cwtch Childcare
ym Mhentrebane ac rwyf wedi bod yma ers chwe mis.
2
00:00:15,810 --> 00:00:20,243
Felly'r hyn a wnaeth fy ysbrydoli i fynd i ofal plant
oedd cael dau blentyn ifanc fy hun,
3
00:00:20,257 --> 00:00:24,563
ac roeddwn i'n meddwl os ydw i'n mynd i fod yn fam
trwy'r amser beth am ddefnyddio hynny fel fy ngyrfa.
4
00:00:24,583 --> 00:00:27,483
Dyma beth dwi'n ei wybod orau
ac roeddwn i'n meddwl pam lai, jest mynd amdani,
5
00:00:27,650 --> 00:00:29,877
a dw i wrth fy modd. Y peth gorau wnes i erioed.
6
00:00:30,290 --> 00:00:36,123
Felly o ddydd i ddydd, gall fy swydd gynnwys
unrhyw beth o chwarae yn yr awyr agored yn y glaw,
7
00:00:36,130 --> 00:00:40,643
unrhyw dywydd, paratoi gweithgareddau,
defnyddio'ch dychymyg gyda'r plant
8
00:00:40,650 --> 00:00:44,237
a gwrando ar eu dychymyg
a gweld yr hyn maen nhw'n ei wneud.
9
00:00:44,730 --> 00:00:50,443
Mae plant yn ddoniol, maen nhw'n hapus,
felly mae'n hyfryd dod i mewn i'r math yna o amgylchedd.
10
00:00:55,530 --> 00:01:03,203
Rydym yn edrych am staff sy'n frwdfrydig,
yn greadigol, yn barod i ystyried syniadau newydd,
11
00:01:03,223 --> 00:01:09,557
i ganiatáu i'r plant archwilio trwy chwarae
a darparu lle diogel iddynt wneud hynny.
12
00:01:09,810 --> 00:01:14,643
Rydym yn ymgorffori chwarae yn nysgu'r plant,
rydym yn darparu sylfaen ddiogel ar eu cyfer.
13
00:01:14,970 --> 00:01:19,117
Rydyn ni'n ceisio eu cael nhw i feddwl
am yr hyn maen nhw'n mynd i'w wneud, felly wrth adeiladu cyrsiau rhwystrau,
14
00:01:19,330 --> 00:01:21,717
fe allai fod o chwarae yn y gegin fwd,
15
00:01:21,742 --> 00:01:25,523
a ddefnyddio eu dychymyg i adeiladu
beth bynnag maen nhw eisiau.
16
00:01:26,217 --> 00:01:30,277
Pan fydd rhieni yn ymddiried ynoch chi
gyda'u plant ac maen nhw'n diolch i chi ar ddiwedd y sesiwn,
17
00:01:30,297 --> 00:01:35,603
Neu maen nhw'n dod yn ôl i ddiolch, mae hynny'n werth chweil
ac rydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwneud gwaith da.
18
00:01:35,777 --> 00:01:39,743
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru/swyddi