Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Sut i ddefnyddio ein porthol swyddi

Mae'r dudalen hon i helpu i arwain cyflogwyr drwy'r broses o greu cyfrif Gofalwn Cymru i uwchlwytho a rheoli swyddi gofal gwag. 

Cam Un - Mewngofnodi

  1. Ewch i hafan Gofalwn Cymru a chliciwch ar y botwm mewngofnodi cyflogwr ar y dde uchaf. 

Nodyn: Os oes angen i chi gael mynediad at eich cyfrif GCC ar-lein neu gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, ewch i www.gofalcymdeithasol.cymru/cofrestru. 

  1. I greu cyfrif:
    • Cliciwch mewngofnodi i fynd i'r dudalen brand deuol.
    • Defnyddiwch eich manylion mewngofnodi GCC ar-lein os oes gennych gyfrif eisoes.
    • Os ydych chi'n creu cyfrif am y tro cyntaf, cliciwch cofrestru nawr o dan y botwm mewngofnodi gwyrdd. 

Sylwch fod gwybodaeth am hysbysiad preifatrwydd ar gael ar yr un dudalen. 

Cam dau - Gwiriwch eich e-bost a chreu'ch cyfrif

  1. Rhowch eich e-bost: Rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y maes perthnasol.
  2. Anfon cod dilysu: Cliciwch y botwm i anfon cod dilysu digid i'ch e-bost.
  3. Rhowch god gwirio: Gwiriwch eich e-bost am y cod dilysu chwe digid a'i roi yn y maes dynodedig.
  4. Creu cyfrinair: Gosodwch cyfrinair newydd ar gyfer eich cyfrif.
  5. Ychwanegu manylion personol: Rhowch eich enw a'ch cyfenw a gwasgwch y botwm 'Creu'.
  6. Dychwelyd i wefan Gofalwn Cymru: Ar ôl cwblhau'r camau hyn, cewch eich ailgyfeirio yn ôl i wefan Gofalwn Cymru. 


Nodyn: gwiriwch eich ffeil sgrwtsh a bydd y llinell bwnc yn dangos 'Cod gwirio e-bost cyfrif SCWonline-GCCarlein.

Nesaf, bydd angen i chi naill ai ddilyn cam tri neu bedwar o'r cyfarwyddiadau hyn. 

Cam tri - Dewiswch sefydliad

1. Dewiswch sefydliad

  • Dechreuwch deipio enw eich sefydliad yn y maes chwilio.
  • Os yw'ch sefydliad yn ymddangos, gwiriwch fanylion a chyfeiriad y sefydliad cyn i chi ei ddewis. 

Nodyn: Os nad yw'ch sefydliad yn ymddangos, bydd angen i chi neidio i gam pedwar a chreu sefydliad newydd. 

  • Mae'n bwysig gwybod os ydych chi'n gweithio ar gyfeiriad gwahanol i'r hyn sy'n ymddangos, gallwch ychwanegu cyfeiriad newydd. 

2. Cyflwyno cyfrif sefydliad: 

  • Ar ôl i chi gyflwyno'r cyfrif sefydliad rydych chi eisiau mynediad iddo, bydd eich dangosfwrdd yn agor.
  • Bydd neges yn ymddangos: "Mae eich cyfrif yn cael ei gymeradwyo ar gyfer un neu fwy o'ch sefydliadau." 

3. Proses gymeradwyo: mae hwn dim ond yn berthnasol i reolwyr swyddi. 

  • Er mwyn cael mynediad, rhaid i reolwr swyddi 'y cwmni gofal a ddewiswyd' gymeradwyo'ch cais.
  • I gymeradwyo mynediad, bydd y rheolwr swyddi yn derbyn e-bost gan Gofalwn Cymru, a bydd yr unigolyn sy'n gofyn am fynediad yn ymddangos o dan ei adran 'Sefydliadau a Reolir' yn 'Fy Manylion'.
  • Yma, gallwch naill ai gymeradwyo neu atal yr unigolyn.
  • Unwaith y bydd y rheolwr swydd yn cymeradwyo'r cais, bydd yr unigolyn yn derbyn e-bost ac yn cael mynediad ac yn dod yn boster swydd.

Gwybodaeth ychwanegol 

  • Rheolwyr Swyddi: Mae'r rhain yn unigolion sy'n sefydlu'r cyfrifon gwreiddiol ac sydd â'r awdurdod i gymeradwyo gweithwyr.
  • Posteri Swyddi: Gweithwyr cymeradwy sy'n gallu postio swyddi gwag i'ch sefydliad.

Cam pedwar – Creu Sefydliad

1. Creu sefydliad – os nad yw'ch cwmni eisoes wedi'i gofrestru. 

  • Llenwch bob adran o'r ffurflen gais sefydliad a phwyso cyflwyno.
  • Os byddwch yn colli rhan o'r ffurflen hon, bydd yn eich rhybuddio gyda'r hysbysiad canlynol "Roedd problem gyda'ch cyflwyniad, gwiriwch y ffurflen am wallau".
  • Byddwch yn amyneddgar wrth gyflwyno'ch manylion gan y gall hyn gymryd ychydig eiliadau i'w lwytho.

2. Proses gymeradwyo 

  • Ar ôl ei gwblhau, bydd eich cyfrif yn dangos hysbysiad sy'n eich hysbysu bod eich cyfrif bellach o dan gymeradwyaeth Gofalwn Cymru.
  • Unwaith y bydd eich cyfrif wedi'i gymeradwyo, byddwch yn cael eich hysbysu trwy e-bost i fewngofnodi i'ch cyfrif. Mae hyn fel arfer yn cymryd 48 i 72 awr.