Ydych chi'n chwilio am gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gan weithio fel Uwch Ymarferydd?
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cyflawni ei botensial ac rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau i sicrhau dull ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y swydd hon, byddwch yn helpu i arwain a rheoli tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymorth a fydd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner i helpu i gefnogi teuluoedd i ofalu'n ddiogel am eu plant lle bynnag y bo modd.
Byddwch yn canolbwyntio ar lwyth achosion bach o achosion mwy cymhleth ac yn goruchwylio ac yn cefnogi staff i sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc sydd angen cynlluniau diogelu, gofal a chymorth a chynllunio gofal. Byddwch yn gallu datblygu arbenigeddau mewn achosion llys, rheoli risg, gwaith uniongyrchol, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal ac agweddau eraill ar ddyletswyddau statudol.
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i ymgorffori'r Fframwaith Ymarfer Arwyddion o Ddiogelwch a Llesiant ac rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac i hyfforddi ein staff i adnabod a rheoli'r risg o niwed ac adeiladu gwydnwch pobl i gynyddu diogelwch a lles.
Lle bynnag y bo modd, rydym yn chwilio am unigolion sydd â rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi'n llawn i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 i'w benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion i weithwyr gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael
yma.Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Gwybodaeth ychwanegolDisgrifiad Swydd a Manyleb PersonCysylltwch â ni Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon cysylltwch â Fiona Nicholls ar
Fiona.Nicholls@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy