Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae Conwy a Sir Ddinbych eisiau penodi aelod Panel Annibynnol ar gyfer y Panel Mabwysiadu. Mae Conwy a Sir Ddinbych yn rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, yn cynnwys chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Rydym yn chwilio am Aelod Panel hyderus gyda dealltwriaeth bersonol neu broffesiynol o’r broses fabwysiadu, rhywun a all dynnu o’u profiadau eu hunain a chael yr hyder i fynegi eu barn. Rhywun sydd â’r gallu i gyfrannu tuag at berfformiad a datblygiad cyffredinol y gwasanaeth. Mae’r rôl hanfodol hwn yn sicrhau bod busnes y Panel yn cael ei gynnal yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau asiantaeth, a bod argymhellion clir, gyda thystiolaeth yn cael eu gwneud er lles gorau’r plant.
Mae’r aelod Panel Annibynnol yn cefnogi trafodaeth gytbwys a chynhwysol, yn hyrwyddo arferion gwrth-wahaniaethol, ac yn gweithio’n agos gyda Chadeirydd y Panel ac aelodau eraill y Panel.
Amdanoch chi
Byddwch yn dod a sgiliau cyfathrebu cryf ac yn dangos ymrwymiad i ddiogelu, gan werthfawrogi amrywiaeth, cynnal cyfrinachedd a dysgeidiaeth broffesiynol barhaus. Nid oes arnoch angen cymhwyster i fod yn Aelod Panel.
Ffioedd
• £130 am bob cyfarfod panel
• Telir am gostau teithio yn unol â pholisi Awdurdod Lleol.
Os oes gennych y sgiliau, profiad a gwerthoedd i ddarparu cyfraniad effeithiol i’r Panel Mabwysiadu, hoffem glywed gennych chi a chroesawn eich cais.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:Nia Hardaker, Rheolwr Gweithredol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (nia.hardaker@conwy.gov.uk / 07818181148)
Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
This form is also available in English.