Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Arbenigwr Comisiynu a Chontractau

Dyddiad cau 09/06/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£39,862 - £41,771 a year (PS1) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Hawis Jones ar 01286 679661

Cynhelir cyfweliadau ar bore Dydd Llun, 22/06/2026

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 09/06/2026

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

                

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

                

Pwrpas y Swydd.

• Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, adolygu a chyflwyno'r strategaeth gomisiynu ar gyfer yr holl gaffael/comisiynu sy’n gysylltiedig â Pobl (y categori Pobl) i fodloni gofynion busnes y cyngor

• Cynorthwyo'r gwaith o bennu gofynion comisiynu gwasanaeth a busnes diffiniedig i sicrhau canlyniadau a gofynion ar gyfer holl wariant sy'n gysylltiedig â'r categori Pobl

• Cynnal adolygiadau parhaus o wariant a gweithgaredd caffael a chomisiynu y categorïau penodol i adnabod cyfleoedd a gwireddu buddion

• Arwain ar y gwaith o adnabod anghenion gofal a lles poblogaeth Gwynedd trwy ddadansoddi data, ymchwilio a chyfathrebu hefo pobl

• Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, rheoli ac adrodd ar fesurau perfformiad strategol a chontractio allweddol yn unol â fframwaith rheoli perfformiad y Cyngor

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

 

Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer

• Dim - Ond yn gyfrifol am gefnogi'r Rheolwr Comisiynu, Contractau a Phrosiectau i siapio rhagleni gwaith y Swyddog Comisiynu a Chontractau

 

Prif Ddyletswyddau.
1. Llunio a cyflawni cynlluniau categori a comisiynu penodol y categori Pobl fydd yn arwain i wasanaethau gael eu comisiynu sydd yn helpu pobl fyw eu bywydau yn y ffordd y maent yn dymuno ei fyw.

2. Sicrhau fod cynlluniau gweithredu clir yn deillio o'r cynlluniau categori a chomisiynu; eu monitro yn effeithiol a chyson ac adrodd ar gynnydd cynnwys y cynllun categori a chomisiynu i'r Rheolwr Categori a/neu Reolwr Caffael Corfforaethol.

3. Datblygu dealltwriaeth o'r farchnad a chefnogi'r gwasanaethau i ddatblygu gwybodaeth fanwl am ofynion ac ansawdd ddarpariaeth. Defnyddio'r dystiolaeth fel sail i gyflwyno achos busnes ar gyfer cyflawni anghenion y gwasanaethau perthnasol ar gyfer categorïau penodol.

4. Cydlynu a hwyluso’r drefn rheolaeth categori a chomisiynu gan sicrhau mewnbwn perthnasol gan yr holl randdeiliaid.

5. Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu strategaeth caffael a chomisiynu y categori Pobl sydd yn cynnwys:

• Paratoi asesiadau anghenion poblogaeth leol a chyfrannu at yr asesiad rhanbarthol
• Paratoi cynlluniau ar gyfer categorïau penodol fydd yn cynnwys asesiad anghenion manwl ar gyfer grwpiau penodol o unigolion a'r dewisiadau posib o ran comisiynu gwasanaeth i gyfarch eu hanghenion.
• Paratoi Datganiadau Sefyllfa'r Farchnad

6. Ble mae'r angen, cynnal unrhyw broses caffael gan gynnwys llunio dogfennau tendr, datblygu a gosod cytundebau a negodi telerau gyda’r darparwyr ar ran y gwasanaethau.

7. Cydlynu a gweithredu systemau rheoli/monitro cytundebau a darparwyr yn unol â chamau rheolaeth categori, ar gyfer ystod o drefniadau caffael/comisiynu o fewn y categori Pobl gan gynnwys y rhai hynny ar y cyd gydag Iechyd neu bartneriaid eraill. Rhannu’r wybodaeth monitro yma, ble’n briodol, gyda’r Tîm Diogelu a Sicrwydd Ansawdd er mwyn hwyluso eu gwaith nhw o ran monitro ansawdd.

8. Adnabod, cyflawni, perchnogi ac adrodd ar gynlluniau effeithlonrwydd categorïau neu gomisiynu penodol. Gall hyn gynnwys paratoi gwaith dadansoddol penodol ar ran y gwasanaeth a chynnig datrysiadau posib y gallai'r gwasanaethau dan sylw weithredu arnynt.

9. Cadw’n gyfredol gyda datblygiadau caffael a chomisiynu sy’n effeithio ar y cynlluniau categori a chomisiynu y categori Pobl. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymwybyddiaeth o'r hyn syn digwydd mewn ardaloedd eraill a manteisio ar rwydweithiau y tu hwnt i Gyngor Gwynedd er mwyn sicrhau bod cysondeb rhwng strategaethau lleol a rhai trawsadrannol, isranbarthol neu ranbarthol.

10. Gweithredu mewn modd sydd yn hybu diwylliant sydd wedi ei wreiddio yn y syniad o “un Cyngor”.

11. Ddatblygu a chynnal perthynas waith ardderchog gyda rhan-ddeiliaid allweddol yn y cylch comisiynu a chaffael, sy’n cynnwys:

• rheolwyr gwasanaeth a thimau perthnasol,

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.