37 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 31 Mawrth 2028
Helpwch i lunio ymarfer eithriadol ar gyfer y blynyddoedd cynnar lle mae pob plentyn yn ddiogel, yn cael ei gynnwys ac yn gallu ffynnu.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgymryd â rôl uwch arbenigwr newydd sy'n gweithio ar draws ein darpariaeth blynyddoedd cynnar a gynhelir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol a llawn cymhelliant i arwain diogelu, cynhwysiant ac ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar draws ein lleoliadau.
Mae hwn yn gyfle prin i helpu i sefydlu a llunio rôl newydd – datblygu systemau cryf, adeiladu hyder y gweithlu a helpu i greu model o ymarfer rhagorol ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
Fel ein Harweinydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a Diogelu Blynyddoedd Cynnar, byddwch yn gweithredu fel y Person Diogelu Dynodedig (DSP) a'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar a gynhelir yr awdurdod lleol, gan ddarparu goruchwyliaeth statudol, arweinyddiaeth broffesiynol a sicrhau ansawdd ar draws pob lleoliad yn y gwasanaeth.
Byddai'r rôl yn addas i weithiwr proffesiynol hyderus a thosturiol sy'n cyfuno barn gadarn, arbenigedd diogelu cryf ac ymrwymiad i ymarfer cynhwysol, ynghyd â'r gallu i gefnogi a herio eraill i gyrraedd y safonau uchaf.
Os ydych yn angerddol am ddiogelu, cynhwysiant a gwella canlyniadau i blant ifanc, ac yn cael eich ysgogi gan y cyfle i lunio'r rôl newydd hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae croeso cynnes i chi gael sgwrs anffurfiol â Stephanie Thomas, Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant. Anfonwch neges e-bost at stephanie.thomas@bridgend.gov.uk i drefnu amser addas.
Mae hon yn rôl yn ystod y tymor, gyda phum diwrnod ychwanegol i'w gweithio'n hyblyg ar draws gwyliau'r Nadolig, y Pasg a'r Haf, yn ôl anghenion y gwasanaeth ac i gefnogi teuluoedd agored i niwed.
Sylwer y bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol teithio ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr felly mae trwydded yrru a defnydd unigol o gar yn ystod oriau gwaith yn ofynion hanfodol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person