Mae’r TAC yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n ceisio cefnogi oedolion, drwy therapi a/neu ofal cartref, i adfer neu gynnal eu gallu i fyw'n annibynnol gartref. Mae’r gwasanaeth yn darparu gofal ailalluogi gyda’r nod o annog a chefnogi pobl i ddysgu neu ail-ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd, yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty.
Am Y Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm Gofal Cartref TAC Caerdydd.
Byddwch yn gweithio'n strategol i gefnogi'r Uwch Dîm Rheoli, gan ddefnyddio gwasanaethau gan ein partneriaid mewnol ac allanol i ddatblygu llwybrau effeithiol i gynorthwyo'r dinasyddion gyda'u hanghenion gofal ailalluogi wrth gael eu rhyddhau o'r ysbyty neu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty.
Byddwch yn gweithio ar draws Iechyd, Gofal Cymdeithasol, y trydydd sector a'r awdurdod lleol yn cryfhau ein trefniadau partneriaeth i gyflawni ein hamcanion corfforaethol er mwyn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth gyda'u potensial ailalluogi a'u cynorthwyo i fyw yn eu cartref yn annibynnol.
Byddwch hefyd yn rheoli carfan o swyddogion o fewn Gofal Cartref TAC, yn unol â'r holl reoliadau sy'n ymwneud â gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y Cartref, gan gynnwys: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant 2014, RISCA 2016, polisïau, gweithdrefnau a holl ddyletswyddau statudol Cyngor Caerdydd.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am y rhai sydd â phrofiad y gellir ei ddangos o reoli llinell mewn gwasanaeth rheoledig a gweithio gydag oedolion bregus yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd angen i chi allu dangos eich gallu i weithio i fodel ataliol sy'n canolbwyntio ar gryfderau a chanlyniadau i hyrwyddo annibyniaeth ynghyd â sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
Bydd gennych FfCCh Lefel 4 neu uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol.
Bydd gennych brofiad o weithio a chyfathrebu’n effeithiol ag asiantaethau partner mewn amryw adrannau mewn awdurdod lleol, sefydliadau iechyd a 3ydd sector
Bydd angen i chi allu echdynnu, dadansoddi ac adrodd ar ddata i gefnogi rhedeg gwasanaeth effeithiol a reolir yn dda.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Noder bod y swydd a hysbysebir yn destun gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ni chaiff ceisiadau yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â nicrees@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 07977576265.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau