Am Y Gwasanaeth
Mae Teleofal Caerdydd yn cynnig cymorth hanfodol i breswylwyr agored i niwed ledled y ddinas, gan sicrhau bod cymorth bob amser ar gael yn syth bin. Mae ein tîm ymroddedig yn gweithio ddydd a nos i gynnig sicrwydd, diogelwch ac ymateb cyflym i'r rhai sydd ein hangen fwyaf.
Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm brwdfrydig, llawn cymhelliant i ymuno â'n gwasanaeth ymroddedig 24/7.
Am Y Swydd
Fel Arweinydd Tîm Teleofal, byddwch yn goruchwylio Gweithredwyr Canolfan Reoli ac Ymatebwyr Symudol i sicrhau bod ein gwasanaeth 24/7 yn cael ei redeg yn ddidrafferth ac yn effeithlon. Byddwch yn rheoli cylch bywyd llawn galwadau Teleofal ac atgyweirio y tu allan i oriau, goruchwylio systemau derbyn larymau, a sicrhau bod staff yn rhoi ymateb o ansawdd uchel yn gyson i gwsmeriaid. Mae'r rôl yn cynnwys cydlynu rotas staff, cynnal gwasanaethau, a chefnogi datblygiad a pherfformiad parhaus staff. Byddwch hefyd yn cyfrannu at welliant parhaus, yn cefnogi gweithredu technolegau newydd, ac yn cymryd rhan mewn rota rheoli ar alwad i gynnig arweiniad y tu allan i oriau pan fo angen.
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mae'r swydd hon yn gweithio 37 awr yr wythnos ac mae'n destun taliadau gyda'r nos, penwythnos a gŵyl y banc.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi'i addysgu i lefel TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) sydd â sgiliau cyfathrebu a TG cryf, a'r gallu i addasu'n gyflym mewn amgylchedd cyflym. Dylech fod â phrofiad o weithio gyda thechnoleg neu offer perthnasol, ynghyd â'r gallu i arwain a chefnogi tîm amlddisgyblaethol wrth gynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol. Mae agwedd cwsmer ganolog, empathi, ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn hanfodol. Mae'r rôl yn gofyn am drwydded yrru lawn, y gallu i weithio ar draws patrwm shifftiau 24/7, ac ymagwedd broffesiynol a chyfrifol at waith.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Phrofiad o reoli amgylchedd ystafell reoli brysur o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hon yn swydd ran-amser am 37 awr yr wythnos.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'r swydd yn gofyn am drwydded yrru lawn.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad ydynt yn eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Huw Parry-Evans (029) 2053 7080.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau