Rhif swydd POSN005411 - Arweinydd Tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
- Cymhwyster perthnasol mewn Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant fel y'i nodwyd yn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau megis Diploma Lefel 3 mewn Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad.
- Lefel 5 mewn Cymhwyster Blynyddoedd Cynnar cydnabyddedig (FfCCh).
Rydym am benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy sy'n ymddiddori'n arbennig yn agenda'r Blynyddoedd Cynnar, gan greu a chynnal partneriaethau cryf gyda gwasanaethau mewnol ac allanol, gan godi proffil y Gymraeg ledled y ddinas.
Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn cynllunio, cyflwyno, a rheoli gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gan gynnal darpariaeth o ansawdd uchel sy’n bodloni canllawiau Arolygiaeth Gofal Cymru a chanllawiau statudol eraill gan gyfrannu at ganlyniadau gwell ar gyfer Dechrau'n Deg a'r llwybr Blynyddoedd Cynnar 0 - 7. Rheoli tîm o staff ar draws gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant sy'n cymryd cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am Dechrau'n Deg a’i ehangu, adeiladau ac ardaloedd awyr agored gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau CDC wrth weithio gyda Rheolwr y Tîm - Blynyddoedd Cynnar a Gwasanaeth Atal a Chynhwysiant ehangach.
Bydd gan yr ymgeiswyr sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i ofal a datblygiad y llwybr Blynyddoedd Cynnar.
Cofiwch nad ydym yn caniatáu i chi ddod â nodiadau i mewn i'r cyfweliad.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Levy dirprwy reolwr ar 07974203081 i gael trafodaeth anffurfiol.
Dyddiad cau 04/11/2026
Mae’r swydd wedi ei heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd angen gwiriad manwl gan y GDG.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd