Am Y Gwasanaeth
Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad o reoli prosiectau a diddordeb mewn cefnogi'r ystod o ddatblygiadau sy'n mynd rhagddynt yng ngwasanaeth rhanbarthol Ar Ffiniau Gofal CAPI.
Byddai'r rôl yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Bro Morgannwg ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio a datblygu'r ddarpariaeth o ddydd i ddydd.
Am Y Swydd
Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2027.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos sgiliau arwain a rheoli rhagorol, a chymhelliant ac ymrwymiad i hyrwyddo pobl ifanc sy'n aros yn eu teuluoedd lle mae'n ddiogel gwneud hynny.
Fel Arweinydd Tîm y Ganolfan Adnoddau Pobl Ifanc, byddwch yn gyfrifol am:
- Cynorthwyo gyda datblygu ystod o brosiectau a gwasanaethau o fewn y Gwasanaethau Plant,
- Rhoi cymorth i'r Rheolwr Gweithredol a'r Rheolwyr Tîm.
- Byddwch yn sicrhau bod cymorth ar gael i sicrhau bod amcanion o ran darparu’r gwasanaeth yn cael eu cyflawni, gan nodi anghenion ym mhob rhan o’r adran.
- Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, a phrofiad o ddatblygu prosiectau a busnes.
- Mae gallu gweithio gyda systemau TG ac ym mhob adran a chyda phob partner yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
- Byddwch yn gyfrifol am gofnodi data ar gyfer yr adroddiadau chwarterol a chwblhau astudiaeth achos yn unol â chyllid CIR.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Agwedd gadarnhaol a’r gallu i berfformio mewn lleoliad gwaith prysur.
- Byddwch yn gallu defnyddio eich profiad a'ch creadigrwydd i helpu i ymateb yn gadarnhaol i amgylchedd sy’n newid yn gyflym er mwyn ymateb i heriau sy'n dod i'r amlwg.
- Profiad helaeth o weithio’n uniongyrchol â phobl ifanc sy’n dangos ymddygiad heriol a'u teuluoedd a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.
Bydd hon yn rôl heriol ond hefyd yn rôl werthfawr fydd yn cynnwys cyfrannu at waith y Gwasanaethau Plant gan wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Kim Goodman (Rheolwr y Ganolfan Adnoddau Pobl Ifanc) ar Kim.Goodman4@caerdydd.gov.uk
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2027
Mae’n rhaid i ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn ymgeisio trwy ddefnyddio SEC 1 (4.C.381). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw’n eiddo i chi.
Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth ychwanegol:-
Atodiadau