Am Y Gwasanaeth
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar o fewn cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd. Wedi'i achredu â Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf, mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i adnabod y gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn diwallu anghenion unigolion a’u teuluoedd. Mae'r timau o fewn y gwasanaeth yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.
Am Y Swydd
Rydym yn ceisio penodi Arweinydd Tîm Helpu Deuluoedd Gradd 7 am 14.5 awr yr wythnos fel rhan o drefniant rhannau swyd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain datblygu a chefnogi tîm o Gynghorwyr Helpu Teuluoedd i ddarparu cymorth atal ac ymyrryd yn gynnar pwrpasol i deuluoedd sy'n cael eu hatgyfeirio at y tîm. Bydd deiliad y swydd yn cysylltu a chyfathrebu gydag ystod o ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, a bydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Gwasanaeth i gefnogi datblygiad parhaus ac ansawdd y gwasanaethau.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddiant eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Systemau a thechnoleg sy’n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i blant bach, plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a’u lles.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am bobl â’r nodweddion canlynol:
- Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd.
- Gwydnwch a gallu ymateb yn gadarnhaol dan bwysau.
- Brwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas.
- Profiad o reoli staff a gweithio o fewn tîm.
- Gallu i arwain drwy esiampl, gan arddangos tegwch ac uniondeb.
- Gallu i gyfoethogi perfformiad personol a pherfformiad y staff trwy roi adborth adeiladol a chynnig cyfleoedd datblygu creadigol.
- Profiad amlwg o feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol gydag unigolion a grwpiau amrywiol.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion cymhleth plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Gwybodaeth ymarferol gynhwysfawr o becyn Microsoft Office ac o systemau rheoli achosion.
Bydd yr unigolyn iawn hefyd yn gallu adnabod a yw unigolyn mewn perygl ac yn gallu ymgynghori a chysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau partner eraill yn ôl y gofyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau