Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Arweinydd Ymarfer - Grwpiau Bregus a Dirprwy Bennaeth Ysgol Rithwir

Dyddiad cau 05/07/2026

Lleoliad

  • Ynys Môn
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£52,413 - £55,679 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Arwain a chydlynu cynnig addysg yr awdurdod lleol ar gyfer dysgwyr bregus - gan gynnwys Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG), Plant â Phrofiad o fod mewn Gofal, unigolion a fu’n derbyn gofal yn y gorffennol, Gofalwyr Ifanc, Addysg Ddewisol yn y Cartref lle bo’n berthnasol, Sipsiwn/Roma/Teithwyr, dysgwyr sy’n dysgu Saesneg/Cymraeg fel Iaith Ychwanegol, plant sy’n ffoaduriaid neu’n geiswyr lloches a grwpiau eraill mewn perygl - fel eu bod yn mynychu, ymgysylltu, cyflawni a gwneud cynnydd mewn addysg. 
 
Gweithredu fel arweinydd addysg statudol yr awdurdod lleol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, (sy’n cael ei alw yn Wasanaethau Addysg Integredig/Ysgol Rithwir yn Ynys Môn), gan sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, dyletswyddau rhianta corfforaethol a’r holl ofynion cysylltiedig o ran cynnal trosolwg ac ansawdd Cynlluniau Addysg Personol (CAP). 
 

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.