Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Asesydd Gofal Cymdeithasol - Tîm Pobl Hŷn

Dyddiad cau 12/06/2026

Cyflogwr

Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Lleoliad

  • Wrecsam
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£31,537 - £33,143 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

  • Ynglŷn â'r Rôl

  • 37 awr yr wythnos

    Rydym yn awyddus i recriwtio Asesydd Gofal Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.

    Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Oedolion. 

    Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i gefnogi oedolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

    Pam ymuno â Wrecsam fel Asesydd Gofal Cymdeithasol Oedolion?

    Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:

    • llwythi achos gwarchodedig
    • amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
    • swyddfa fodern a llachar
    • cymorth a goruchwyliaeth ragorol gan reolwyr
    • datblygiad a dilyniant gyrfa personol
    • sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
    • bydd dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wraidd eich ymarfer.

    Mae gan y Tîm Pobl Hŷn gylch gwaith eang ac amrywiol sy'n darparu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Mae'r tîm yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer unigolion sy'n byw yn y gymuned, preswylwyr cartrefi gofal a phobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.  Mae'r meysydd y byddwch yn dod ar eu traws yn ein tîm yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithio amlddisgyblaethol gyda theuluoedd, gofalwyr di-dâl, gweithwyr proffesiynol iechyd a’r trydydd sector; technoleg gynorthwyol; cefnogi gofalwyr di-dâl; ailalluogi; taliadau uniongyrchol; gweithio gyda phobl sy'n byw gyda diagnosis o ddementia; rhyddhau o’r ysbyty ac osgoi’r ysbyty; diogelu; hunanesgeulusod; galluedd meddyliol a gwneud penderfyniadau er lles pennaf; asesiadau Gofal Iechyd Parhaus; ymyrryd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl; a'r Llys Gwarchod. Fel rhan o'r tîm, byddwch yn mwynhau amgylchedd gwaith cefnogol, gan gynnwys goruchwyliwr a mentor, sesiynau grŵp cymorth cyfoedion rheolaidd, cefnogaeth goruchwylio a rheoli gadarn, mynychu cyfarfodydd tîm ac ardal leol yn rheolaidd, a chymorth rhagorol gan gyfoedion bob dydd.

    Pam gweithio gyda ni?

    Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:

    • Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
    • Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael ‘diwrnodau hyblyg’, gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
    • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
    • Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
    • Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu
    • Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
    • Cynllun Beicio i’r Gwaith.
    • Aelodaeth hamdden ratach.
    • Rhaglen sefydlu fanwl.

    I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

    Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.

    Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). 

    Sylwch nad allwn ni gyflwyno tystysgrifau nawdd.
     
     Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

    Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.


  • Amdanom Ni

  • Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.

    Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.

    Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.

    Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).

    Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:

    • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
    • Trefniadau gweithio hyblyg
    • Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
    • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
    • Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
    • Aelodaeth hamdden gostyngol
    • Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
    • Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
      • Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
      • Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
        • Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
        • Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
        • Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
        • Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
        • Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
        • Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
        • Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
      • Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
      • Caffi Menopos ac arweiniad
      • Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau

    Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:

    • Grymuso
    • Ymddiriedaeth a gonestrwydd
    • Dyhead
    • Cydweithredu
    • Gwneud gwahaniaeth
    • Tegwch


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.