Athro/Athrawes Arbenigol ASD ac ESBD (12 mis cyfnod penodol neu gyfle i gael secondiad)
Graddfa Gyflog Athrawon + TLR2A + Lwfans AAA
Mae Gwasanaeth Cynhwysiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio secondio Athro/Athrawes Arbenigol sy'n frwdfrydig, yn llawn cymhelliant a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) ac Anawsterau Emosiynol, Cymdeithasol ac Ymddygiadol (ESBD). Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud cyfraniad sylweddol at wella canlyniadau a hyrwyddo cynhwysiant addysgol i blant a phobl ifanc ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gan weithio o dan arweiniad yr Arweinydd ar gyfer ASD, SALT ac ESBD, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag ysgolion, teuluoedd a phartneriaid amlasiantaeth i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig y rhai ag ASD ac ESBD. Mae'r rôl yn cynnwys darparu asesu arbenigol, cyngor, ymyrryd a chymorth meithrin gallu i ysgolion, yn ogystal â chyflwyno dysgu proffesiynol i weithwyr proffesiynol addysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ASD ac ESBD, ynghyd â phrofiad o asesu, cynllunio rhaglenni, monitro cynnydd disgyblion a gweithio'n effeithiol gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar draws gwasanaethau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r gallu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, dylanwadu ar ymarfer a chyfrannu at ddulliau ysgol gyfan o ran cynhwysiant yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am ymarferydd medrus sy'n ymrwymedig i wella canlyniadau i ddysgwyr agored i niwed, sy'n gallu gweithio ar y cyd ar draws amrywiaeth o leoliadau ac sy'n gallu cyfrannu at ddatblygiad parhaus gwasanaethau cynhwysiant o ansawdd uchel ar draws yr awdurdod lleol. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau rheoli llinell a chyfleoedd i gyfrannu at ddatblygu gwasanaethau a dysgu proffesiynol ar draws ysgolion.
Mae'r swydd hon yn gofyn am gymhwyster addysgu perthnasol a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae angen trwydded yrru lawn a mynediad i gerbyd. Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol, cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus a'r cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig sydd wedi ymrwymo i sicrhau y gall yr holl blant a phobl ifanc ffynnu, cyflawni a chyrraedd eu potensial.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Samuel Miller 01656 815079 neu Samuel.miller@bridgend.gov.uk
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 26 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 14 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 21 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person