Dros dro am hyd at 12 mis
Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn ceisio penodi Athro/athrawes Arbenigol frwdfrydig, llawn cymhelliant a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Ôl-16 a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog wrth wella canlyniadau, hyrwyddo cynhwysiant a chefnogi pontio llwyddiannus i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gan weithio o dan arweiniad yr Arweinydd ADY a'r Arweinydd Ôl-16 (Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol), bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio ag ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant, teuluoedd a phartneriaid amlasiantaeth i gefnogi dysgwyr ag ADY mewn lleoliadau addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae'r rôl yn cynnwys darparu cyngor arbenigol, asesu, ymgynghori ac ymyrraeth, wrth gefnogi lleoliadau addysgol i ddarparu Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol o ansawdd uchel a chyflawni eu dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf ADY a'r Cod ADY.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY a dealltwriaeth gref o ymarfer addysgol cynhwysol. Bydd ganddynt brofiad o gynllunio sy'n canolbwyntio ar unigolion, cyfrannu at Gynlluniau Datblygu Unigol, monitro cynnydd dysgwyr a chefnogi pontio effeithiol i addysg bellach, hyfforddiant a byd oedolion. Mae profiad o weithio ar y cyd â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar draws addysg, iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn hanfodol.
Bydd y rôl yn cynnwys arwain cyfarfodydd cynllunio sy'n canolbwyntio ar unigolion i ddysgwyr sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref neu'n cael eu haddysgu mewn awdurdod arall, cynghori darparwyr addysgol, cyflwyno dysgu a hyfforddiant proffesiynol a chyfrannu at ddatblygu gwasanaethau a gweithgareddau sicrhau ansawdd. Mae'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, dylanwadu ar ymarfer a hyrwyddo canlyniadau effeithiol i ddysgwyr ag ADY yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am ymarferydd medrus sy'n ymrwymedig i wella canlyniadau i ddysgwyr agored i niwed, sy'n gallu gweithio ar y cyd ar draws amrywiaeth o leoliadau addysgol ac sy'n angerddol am ddatblygu ymarfer cynhwysol a llwybrau paratoi ar gyfer bod yn oedolyn i bobl ifanc ag ADY.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig, bod wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a gallu dangos profiad proffesiynol perthnasol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol, cyfleoedd ar gyfer datblygu proffesiynol a'r cyfle i fod yn rhan o dîm ymroddedig sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yn ffynnu, yn cyflawni ac yn cyrraedd eu potensial.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
Angharad Davidson - Angharad.davidson@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 21 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 2 Tachwedd 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person