Blaen Weithiwr Cymdeithasol - Cymorth i Gynhalwyr sy’n Berthnasau - Maethu Cymru RhCT
37 awr yr wythnos - Gradd 13 - £49,282 y flwyddyn
Uned 2, Parc Busnes Hen Lofa’r Maritime, CF37 1NY
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Blaen Weithiwr Cymdeithasol amser llawn yn rhan o’r Garfan Cymorth i i Gynhalwyr sy’n Berthnasau. Mae'r gwasanaeth yn elwa o weithlu maethu sefydlog a phrofiadol sy'n gefnogol, yn gynhwysol ac wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion ein cynhalwyr sy'n berthnasau a'r plant y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn creadigol ac angerddol sydd wedi ymrwymo i gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal gan unigolion sy’n rhan o’u teulu a'u rhwydweithiau cysylltiedig. Mae'r swydd yma'n canolbwyntio ar gefnogi a chynnal trefniadau gofal gan berthnasau, gan sicrhau bod gan gynhalwyr yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i ddarparu cartrefi diogel, sefydlog a chefnogol i blant.
A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol, bydd disgwyl ichi reoli llwyth gwaith cymhleth a dyletswyddau eraill y swydd yma. Byddwch chi'n allweddol wrth ddatblygu arfer gorau, felly bydd angen i chi hybu a darparu arfer proffesiynol o safon uchel yn gyson, cyflwyno sesiynau cymheiriaid a mentora eraill i wneud yr un peth.
Bydd cyfleoedd datblygu yn cael eu darparu yn rhan o’r swydd yn unol â blaenoriaethau allweddol a chynllun gwaith yr Awdurdod Lleol a Maethu Cymru.
Yn ogystal, byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo arfer gorau mewn gwaith cymorth gan berthnasau, gan sicrhau bod ymyraethau’n seiliedig ar berthnasoedd, yn canolbwyntio ar gryfderau ac yn ymateb i anghenion plant a'u cynhalwyr. Byddwch chi'n cefnogi cynhalwyr i gael mynediad at wasanaethau priodol, yn eirioli ar eu rhan, ac yn cydweithio â chydweithwyr ym mhob rhan o’r gwasanaethau i blant ac asiantaethau partner.
Byddwch chi'n derbyn ac yn darparu goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd bob chwe wythnos a byddwch chi'n cyfrannu at drefniadau rheoli effeithiol y garfan o ddydd i ddydd. Bydd achlysuron lle byddwch chi'n dirprwyo ar ran Rheolwr y Garfan ac yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
Byddwch chi'n elwa o lwybr gyrfa clir ar gyfer gweithwyr cymdeithasol proffesiynol a phecyn buddion deniadol i weithwyr, gan gynnwys trefniadau gweithio hyblyg, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol, a mynediad at gynlluniau Beicio i'r Gwaith a Let's Connect.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Maethu, deddfwriaeth berthnasol arall ac arfer da. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny., Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig yn ogystal ag o leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol ym maes gofal cymdeithasol. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Rhiannon Shepherd, (Rheolwr y Garfan) ar 07393759247.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion i staff
- Gostyngiadau siopa gyda cherdyn Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.