Blaen Weithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) / Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)
37 awr yr wythnos – Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Gradd 13 - £50,908 y flwyddyn
Mae Cyngor RhCT yn chwilio am Flaen Weithiwr Cymdeithasol medrus a phrofiadol i ymuno â'n Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.
Y Swydd
Y Garfan yw'r man cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ar gyfer Gwasanaethau i Blant RhCT. Rôl Carfan y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth y penderfynu p'un ai bod eisiau rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth neu ymchwilio i bryderon ynghylch mater diogelu.
Yn rhan o Garfan y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) mae rôl y Blaen Weithiwr Cymdeithasol wedi'i rhannu'n rolau yn y Garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA), lle mae ymholiadau'n cael eu trin ac atgyfeiriadau'n bwrw trothwy posibl, a'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) lle y mae cyfarfodydd strategaeth amlasiantaeth yn cael eu cynnal a'u cadeirio.
Ynglŷn â'r garfan
A chithau'n aelod o'r Garfan Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth byddwch chi'n gweithio'n rhan o garfan brysur, sefydledig, fedrus a brwdfrydig sy'n ymgymryd ag ymholiadau gyda theuluoedd, aelodau'r cyhoedd ac asiantaethau partner i sefydlu'r deilliannau gorau i blant. Fel arfer, mae'r garfan yn cynnwys carfan o Flaen Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Materion Asesu Gofal. Yng ngharfan y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth mae pob ymholiad yn cael ei gynnal dros y ffôn, sy'n gwneud y rôl yn addas i'r rhai sy'n chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfleoedd ar gyfer gweithio hybrid.
Pam gweithio i ni?
Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar drawma. Mae hyn yn golygu y bydd mynediad gyda chi at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - wrth gefnogi staff i weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymuso gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi hefyd yn derbyn rhaglen hyfforddi ystyriol o drawma mewnol.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a ‘Vivup’, ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion Cwbl Gyfrinachol.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol a cherdyn Vivup sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer y Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
http://www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant
Cysylltwch â'r rheolwr i gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol: Laura Shott (Rheolwr Ymarfer a Chyflawniad y Garfan) ar (01443) 425006.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.