Blaen Weithiwr Cymdeithasol
Cyflog: Gradd 13 - £50,908
Canolfan/Swyddfa/Gweithle: Prif Swyddfa Cwm Cynon
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Mae gan ein Gwasanaethau Gofal a Chymorth i Oedolion swydd amser llawn i Flaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'r Garfan Gofal a Chymorth (Gogledd Cwm Cynon). Dyma gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n angerddol am gynorthwyo oedolion 18 oed a hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r garfan yn gweithio gydag unigolion sydd ag anghenion o ganlyniad i anabledd corfforol, amhariad ar y synhwyrau, salwch cronig, cyflyrau niwrolegol, salwch meddwl, eiddilwch, neu amgylchiadau eraill sy'n gallu cael effaith ar eu lles, eu hannibyniaeth, a'u gallu i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain. Mae gyda llawer o'r unigolion sy'n derbyn cymorth gan y garfan anghenion cymhleth sy'n gofyn am drefniadau asesu parhaus, ymyraethau, gwaith rheoli risg, cynllunio gofal a chymorth, a chyfranogiad gweithredol gan Weithwyr Cymdeithasol er mwyn eu helpu nhw i gyflawni eu deilliannau personol a chynyddu eu hannibyniaeth.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, bod yn drefnus ac yn gryf eich cymhelliad. Byddwch chi'n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol, a byddwch chi'n credu o ddifrif mewn rhoi annibyniaeth i oedolion. Byddwch chi hefyd yn gallu cydbwyso risg yn erbyn hawl yr unigolion i hunan-benderfyniad.
A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol, bydd disgwyl ichi reoli llwyth gwaith a dyletswyddau eraill y swydd yma. Byddwch chi'n allweddol i ddatblygu arfer gorau, felly bydd angen i chi hyrwyddo a darparu arfer proffesiynol o safon uchel yn gyson a bod yn fentor sy'n annog eraill i wneud yr un peth.
Byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth reolaidd a broffesiynol bob chwe wythnos a byddwch chi'n ymwneud â hwyluso goruchwyliaeth mewn grwpiau cyfoedion er mwyn gwella dealltwriaeth a gwybodaeth broffesiynol. Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth reoli'r garfan a bydd disgwyl i chi ddirprwyo ar brydiau ar gyfer Rheolwr y Garfan.
Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd heriol ond cefnogol. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bydd raid gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod o newid. O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai.
Bydd disgwyl i chi ddeall polisïau diogelu a Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a glynu atyn nhw. Bydd dealltwriaeth o faterion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o fantais.
Er mai carfan gyffredinol yw hon, mae cyfleoedd i ddatblygu meysydd o arbenigedd yn rhan o'r garfan. Mae cyfleoedd i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar ymchwil yn cael eu hannog ac mae gan y garfan hanes hir o gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant achrededig sy'n berthnasol i'r swydd. Mae ein hamgylchedd gwaith yn gefnogol iawn. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith drwy ei gynllun buddion staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â chymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol perthnasol, h.y. gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu'i rhagflaenydd cydnabyddedig cyfwerth. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd fod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru yn Weithiwr Cymdeithasol gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, gan gynnwys gweithio ar lefel gweithiwr cymdeithasol profiadol.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith'.
Am ragor o wybodaeth am y swydd neu am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Gennai Shepherd - Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad ar (01443) 444596.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau gweithio hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion i staff
- Gostyngiadau Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.