Blaen Weithiwr Cymdeithasol
Math o Swydd: Gwaith Cymdeithasol
Cyfadran: Gwasanaethau Cymdeithasol - Gwasanaethau i Oedolion
Gradd: Gradd 13
Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gofal a Chymorth (Rhondda Fawr a De Cwm Cynon).
Mae gan ein Carfanau Gofal a Chymorth i Oedolion swydd lawn amser i Flaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o garfanau Gofal a Chymorth Rhondda Fawr a De Cwm Cynon. Rydyn ni'n cynnig cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn brwdfrydig a hoffai weithio gydag oedolion dros 18 oed, a allai fod ag anabledd corfforol, salwch parhaol, anabledd dysgu, cyflwr iechyd meddwl sydd ag anghenion cymhleth ac angen cymorth parhaus, gweithredol gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, bod yn drefnus ac yn gryf eich cymhelliad. Byddwch chi'n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol, a byddwch chi'n credu o ddifrif mewn rhoi annibyniaeth i oedolion. Byddwch chi hefyd yn gallu cydbwyso risg yn erbyn hawl yr unigolion i hunan-benderfyniad.
A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol, bydd disgwyl ichi reoli llwyth gwaith a dyletswyddau eraill y swydd yma. Byddwch chi'n allweddol i ddatblygu arfer gorau, felly bydd angen i chi hyrwyddo a darparu arfer proffesiynol o safon uchel yn gyson a bod yn fentor sy'n annog eraill i wneud yr un peth.
Byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth reolaidd a broffesiynol bob chwe wythnos a byddwch chi'n ymwneud â hwyluso goruchwyliaeth mewn grwpiau cyfoedion er mwyn gwella dealltwriaeth a gwybodaeth broffesiynol. Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth reoli'r garfan a bydd disgwyl i chi ddirprwyo ar brydiau ar gyfer Rheolwr y Garfan.
Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd heriol ond cefnogol. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bydd raid gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod o newid. O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai.
Bydd disgwyl i chi ddeall polisïau diogelu a Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a glynu atyn nhw. Byddai dealltwriaeth o faterion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o fantais.
Er bod y rhain yn garfanau cyffredinol, mae yna gyfleoedd i ddatblygu meysydd arbenigedd yn rhan o'r garfan. Mae cyfleoedd i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar ymchwil yn cael eu hannog ac mae gan y garfan hanes hir o gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant ôl-gymhwyso achrededig. Mae ein hamgylchedd gwaith yn gefnogol iawn. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith drwy ei gynllun buddion staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â chymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol perthnasol, h.y. gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu'i rhagflaenydd cydnabyddedig cyfwerth. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd fod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru yn Weithiwr Cymdeithasol gyda phrofiad ôl-gymhwyso helaeth, gan gynnwys gweithio ar lefel Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith' a gostyngiadau VivUp.
Am wybodaeth bellach ac i drafod y swydd yn anffurfiol, cysylltwch ag Anna-Marie Young (Rheolwr y garfan, Rhondda Fawr) neu Yvonne Phillips (De Cwm Cynon) drwy ffonio 01443 444596.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion i staff
- Gostyngiadau Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y brosess denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.