Lleoliad: Ysgol Babanod Cwmaber
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £13,768 - £14,992 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Hoffech chi fod yn rhan o’n tîm arlwyo arobryn, sy’n hyrwyddo awyrgylch cynnes lle mae pobl yn cael eu parchu fel unigolion ac yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
Ydych chi'n chwilio am waith mewn cegin mewn amgylchedd ysgol?
Ydych chi'n llawn egni, yn ofalgar, yn brydlon ac yn ddibynadwy? Ydych chi'n mwynhau paratoi a gweini bwyd?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Gogydd â Gofal ar gyfer Ysgol Babanod Cwmaber.
Mae’r rôl hon yn Cyfnod Penodol am 6 Mis, rhan amser yn gweithio 4.5 awr y dydd (sef 22.5 awr yr wythnos) ac yn ystod y tymor yn unig, felly, 38 wythnos y flwyddyn.
Mae hwn yn gyfle gwych lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth arlwyo hanfodol o fewn yr ysgol, fodd bynnag, efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau eraill yn y Fwrdeistref Sirol pan fo angen.
Bydd y rôl yn gofyn i chi oruchwylio eraill yn y gweithle wrth weithio i ganllawiau wedi'u gosod gan Wasanaethau Arlwyo Caerffili i sicrhau y bydd safonau perfformiad cywir yn cael eu cyflawni. Felly, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau arwain rhagorol.
Mae'r Cogydd â Gofal yn adrodd i'r Goruchwyliwr Gweithrediadau neu’r Rheolwr, ac yn cael ei gynorthwyo ganddyn nhw, lle, fel tîm, rydyn ni'n gweithio gyda’n gilydd i ddarparu prydau maethlon ac iach i blant y Fwrdeistref Sirol wrth gadw at yr holl reoliadau hylendid a diogelwch bwyd.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd.
- Y gallu i weithio'n fanwl ac effeithiol o dan bwysau ac i derfynau amser a chydag ymdeimlad cryf o bwrpas.
- Ar gael ar gyfer rhywfaint o waith/hyfforddiant tu allan i oriau yn ôl yr angen.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Tracey Sellers ar 07786244045 neu ebost:
sellet@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.