Lleoliad gwaith: Llys Elian
Mae Llys Elian yn gartref gofal preswyl sy’n darparu cymorth 24 awr i bobl hŷn sydd yn byw gyda dementia.
Rydym yn dymuno penodi cogydd cynorthwyol ymroddedig a brwdfrydig, a fydd yn cynorthwyo gyda phob agwedd o arlwyo ar gyfer y Cartref Preswyl, y ganolfan dydd, ac fydd yn dirprwyo dros y cogydd yn ystod cyfnodau o absenoldeb. Bydd y person yn y swydd yn gweithio bob yn ail benwythnos.
Bydd angen i deilydd y swydd gynorthwyo wrth gynllunio bwydlenni er mwyn cwrdd ag anghenion dietegol unigolion, darparu deiet cytbwys, ystyried safon ac argaeledd cynhwysion er mwyn gwneud yn fawr o bob adnodd.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i sicrhau fod prydau yn cael eu cynhyrchu i safon uchel a bod ceginau, mannau cadw bwyd ac offer yn lân ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da, a sicrhau safon uchel o lanweithdra, a glynu wrth y polisi iechyd a diogelwch ac arfer da.
Rhoddir hyfforddiant a bydd rhai oriau gwaith ar y penwythnos yn dennu tâl uwch fesul awr. Mae cyfle i weithio oriau ychwanegol.
Mae sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg yn hanfodol, tra byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn effeithiol yn ddymunol.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Christine Williams, Rheolwr, 01492 577749, Christine.williams@conwy,gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.