Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ( Pecyn Gwybodaeth )
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Nia Thomas ar 01758612123
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, 25/10/2024 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Person aeddfed sy'n gallu derbyn cyfrifoldebau.
Gallu i arwain a gweithredu fel aelod o dim.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Tystysgrif Sylfaenol mewn Glanweithdra Bwyd.
Dymunol N.V.Q 2 neu 3 mewn coginio ac arlwyo neu gymwysterau cyfatebol.
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch e.e. symud a thrin, cymorth cyntaf ayyb
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o ddarparu prydau blasus a syml i nifer o bobl.
Profiad o weithio mewn modd diogel mewn cegin brysur.
Dymunol Profiad o reoli cegin brysur ac arwain tîm o staff.
Profiad o greu bwydlenni iachus ar gyfer gwahanol anghenion deietegol.
Profiad o archebu bwyd gan gadw o fewn y gyllideb.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Meddu ar sgiliau coginio da i baratoi prydau blasus ac iachus.
Gallu i weithio o fewn amserlen dynn.
Gallu i baratoi prydau i nifer o bobl.
Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da.
Dymunol Dealltwriaeth am anghenion pobl hyn.
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud âr swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cymeryd cyfrifoldeb am drefn a rheolaeth yn y gegin sydd yn cynnwys archebu bwyd, paratoi bwydlenni a phrydau, gweini prydau a byrbrydau. Cadw cofnodion angenrheidiol am bob agwedd ar waith y gegin. Goruchwylio glanweithdra a diogelwch y gegin, cyfarwyddo a goruchwylio staff a rheoli pob gwasanaeth sy'n gysylltiedig âr gegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Cyfrifoldeb am staff, cyllid ac offer sy'r gegin. Rhoi gwybod i'r rheolwr a/neu'r adain eiddo a/neu asiantaeth arall am unrhyw ddiffyg yn adeilad y gegin neu offer sy'r gegin
Prif ddyletswyddau • Sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn cadw eu hurddas, annibyniaeth a'u hawliau ar bob achlysur. Rhan annatod o hyn yw sicrhau fod y defnyddwyr yn cael cyfle i ddewis eu bwyd pob dydd ac yn cael mewnbwn i'r math o fwyd a ddarperir.
• Bod yn ran a chynnal cyfarfodydd gyda'r defnyddwyr gwasanaeth i gasglu gwybodaeth ac adborth.
• I fod a'r wybodaeth a'r gallu i baratoi prydau bwyd ar gyfer unigolion ag angehnion cymleth
• I ymrwymo i gefnogi gyda gweithgareddau 'goginio' gyda'r defnyddwyr gwasaneth
• I drefnu dyddiau/nosweithiau thema
• Sicrhau fod trefniadaeth a gweinyddiaeth y gegin yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio a deddfwriaeth perthnasol Iechyd a Diogelwch a pholisïau a chanllawiau'r Cyngor.
• Archebu nwyddau,
• paratoi, coginio a chyflwyno bwyd meithlon a blasus ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn amgylchedd glan gan gydymffurfio a'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol.
• Cynllunio a dilyn bwydlen gan ystyried anghenion maethlon.
• Rheoli maint y prydau yn unol âr canllawiau perthnasol a dymuniad defnyddwyr y gwasanaeth.
• Arolygu staff y gegin gan gynnwys pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith, a hyfforddiant.
• Cadw i drefniadau glanhau, gan ddiweddaru'r cynlluniau
• Sicrhau bod materion eiddo yn cael sylw, ac i'r gegin beidio a mynd dan safon.
• Cyfrifodeb am y gyllideb, ac i weithio yn effeithiol
• Defnydd a sgiliau IT
• Mynychu hyfforddiant perthnasol i'r swydd.
• Mynychu ac cymerid rhan mewn cyfarfodydd staff.
• Goruchwylio a gwerthuso staff y gegin yn unol â threfn y Cyngor ac mewn cydweithrediad a Rheolwr y Cartref.
• Cydymffurfio gyda'r gofynion perthnasol , 'deddf rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol (cymru) 2016
• Cytuno i unrhyw archwiliad meddygol y bernir ei fod o fudd i'r gweithiwr a/neu'r gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol âr cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol âr Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • i fod yn barod i ymateb i alwad i gefngoi cartref arall yn yr ardal mewn argyfwng
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr