Ar draws Blaenau Gwent a Thorfaen yn Ne Cymru, mae ein cynghorau yn gwneud rhywbeth gwirioneddol wahanol. Fel cynghorau ffederal cyntaf, ac unig gynghorau ffederal, Cymru, rydyn ni’n arloesi gyda model arwain newydd sy'n dod â dau awdurdod unedol at ei gilydd o amgylch cyd-uchelgais, arweinyddiaeth wedi'i halinio ac effaith ar y cyd. Y ddau gyngor hyn hefyd yw'r cynghorau Marmot cyntaf yng Nghymru, ac maen nhw wedi sefydlu ymrwymiad clir i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gwella llesiant a chanolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor trwy bopeth a wnânt.
Mae gofal cymdeithasol i oedolion ym Mlaenau Gwent a Thorfaen yn dechrau pennod newydd, gyffrous. Bydd y rôl newydd hon yn ganolog i ddatblygiad ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaeth ffederal sy'n darparu cymorth diogel, cyson, o ansawdd uchel ar draws dau Gyngor, tra'n cadw ffocws cryf ar gymunedau a pherthnasoedd lleol.
Byddwch yn adrodd i'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chomisiynu, ac yn arwain rheolaeth gwaith cymdeithasol a gofal i oedolion ar draws pedwar tîm lleol hirdymor sy'n rhychwantu ein dau Gyngor. Bydd eich portffolio’n cynnwys ymarfer proffesiynol, sicrhau ansawdd, diogelu, trawsnewid, perfformiad a rheolaeth ariannol. Byddwch yn cryfhau ffyrdd cyson o weithio, yn cefnogi rheolwyr sefydledig trwy gyfnod o newid ac yn sicrhau bod gwasanaethau yn dal i ymateb i batrymau angen gwahanol.
Bydd gwaith partneriaeth yn hanfodol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB), Gofal Cymdeithasol Cymru, ein rheoleiddwyr, aelodau etholedig a phartneriaid yn y gymuned, gan hyrwyddo atal, cyd-gynhyrchu a dulliau integredig sy'n gwella canlyniadau i'r bobl sy'n byw yn ein cymunedau ac yn cynnig cefnogaeth gynaliadwy i ateb y galw yn y dyfodol.
Byddwch yn ymarferydd ac yn arweinydd gwaith cymdeithasol cymwys, credadwy a blaengar a bydd gennych brofiad sylweddol o reoli, gafael gref ar ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a hanes profedig o wella gwasanaethau. Byddwch yn wydn, yn gydweithredol ac yn gyfforddus yn herio ymarfer sefydledig, a byddwch yn dod â'r egni a'r farn sydd eu hangen i droi model uchelgeisiol yn gyflawni cynaliadwy.
I gyflwyno cais, ewch i wefan Faerfield: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | Cyd-ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Oedolion
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.