Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1001
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract: 1 Tachwedd 2026
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd J
Cyflog: £41,511 - £45,718
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £21.52 - £23.70
Oriau Contract: 37 awr yr wythnos
Dewch i ymuno â'n tîm Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Diogelu ymuno â'r Tîm Diogelu Oedolion prysur yng Nghyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r Tîm Diogelu yn gyfrifol am sicrhau bod gweithdrefnau statudol yn cael eu dilyn i ymateb yn briodol i adroddiadau diogelu a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i oedolion sydd mewn perygl.
Bydd y swydd yn golygu gweithio'n agos gydag asiantaethau partner a bydd deiliad y swydd yn gallu gwneud penderfyniadau prydlon a gwybodus mewn sefyllfaoedd sy'n ymwneud â risg.
Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cyfathrebu rhagorol a bydd ganddo brofiad o gadeirio cyfarfodydd amlasiantaethol a llunio cynlluniau amddiffyn oedolion.
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o weithio mewn rôl ddiogelu statudol a bydd ganddo wybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth, polisi a gweithdrefnau perthnasol sy'n ymwneud â diogelu, gofal cymdeithasol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, caethwasiaeth fodern a gwrthderfysgaeth.
Bydd gan ddeiliad y swydd gymhwyster gwaith cymdeithasol
Cysylltwch â Rachel Field ar RField@carmarthenshire.gov.uk Disgrifiad Swydd: Designated Officer Safeguarding JD Aug 2024 bilingual.pdf - 320KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 09/01/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.