Cydlynydd Cartref yn Gyntaf
Cyflogwr
City and County of Swansea / Dinas a Sir Abertawe
Lleoliad
-
Abertawe
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £32,061 - £35,412 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ydych chi eisiau ein helpu ni i wneud gwahaniaeth drwy gefnogi pobl i fyw'n dda gartref? Yna gallai hon fod y rôl i chi! Mae cydweithio wrth wraidd y rôl hon, byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o dimau yng Ngwasanaethau Oedolion Abertawe gan gynnwys gofal cartref, cymorth cynnar, therapïau, gwaith cymdeithasol, a thimau comisiynu, i wneud yn siŵr bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.
Ffocws y rôl swyddfa hon yw cefnogi timau gyda gweinyddu a chydlynu cefnogaeth amserol ac effeithiol i unigolion. Drwy hwyluso ymyrraeth gynnar a defnyddio gwasanaethau ail-alluogi, byddwch yn helpu i atal yr angen rhag cynyddu ac osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, gan alluogi pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref. Drwy gefnogaeth ragweithiol i weithwyr proffesiynol a gweinyddu achosion yn effeithlon, byddwch yn hanfodol wrth gefnogi cydweithwyr i helpu unigolion i adennill hyder ac annibyniaeth, gan leihau dibyniaeth ar wasanaethau acíwt. Bydd eich ffocws ar ymyriadau amserol a phrosesau gweinyddol cadarn yn cynyddu cyrhaeddiad ac effaith gwasanaethau ail-alluogi a chefnogi ledled Abertawe i'r eithaf, gan alluogi mwy o bobl i elwa o ofal effeithiol sy'n canolbwyntio ar y person.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein