Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc?
Rydym ni'n frwd dros weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc a'u galluogi i 'fyw'r bywyd gorau posib' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Gwneir hynny drwy osod y plant / pobl ifanc yn ganolog i'r holl gynlluniau cefnogi a strategaethau a ddatblygir i'w galluogi i fagu sgiliau ymhob agwedd ar eu bywydau a rhoi iddynt annibyniaeth ac ymdeimlad o gael eu cynnwys yn eu cymunedau, gyda phopeth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Rydym yn chwilio i benodi Cydlynydd Cefnogaeth Gymunedol o fewn ein Tîm Adnoddau Anabledd. Swydd y Cydlynydd Cefnogaeth Gymunedol fydd cefnogi'r rheolwr cofrestredig i ddarparu gwasanaethau i unigolion sydd ag anableddau tra'n sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Bydd y swydd bresennol yn cefnogi'r rheolwr cofrestredig i ddarparu cefnogaeth i unigolion sydd ag anableddau sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd disgwyl i chi: • Cydlynu gwaith staff o ddydd i ddydd: bydd hyn yn cynnwys derbyn atgyfeiriadau newydd, dyrannu gwaith a diweddaru cofnodion. • Cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill o ddydd i ddydd yn ôl y gofyn. • Darparu goruchwyliaeth, cymorth a chanllaw mewn modd sensitif gan sicrhau bod staff yn gweithio'n ddiogel ac yn cwrdd â'r safon a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru. • Cwblhau cynlluniau darparu gwasanaeth, sy'n bodloni canlyniadau unigol ar gyfer unigolion. • Cynnal asesiadau risg ac asesiadau codi a symud yn gorfforol yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Corfforaethol. • Wedi cwblhau NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu bwnc perthnasol. • Bod â'r gallu i gyflawni QCF Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc neu Oedolion o fewn cyfnod o 3 blynedd yn dilyn penodiad.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi: • Meddu ar yr hyder a'r gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau, a fydd yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau ac iechyd a diogelwch. • Gallu cyfathrebu ar bob lefel gyda staff, unigolion, cydweithwyr eraill, gweithwyr proffesiynol eraill, rheolwyr, teulu a ffrindiau. • Gallu cyfathrebu mewn ffordd gyfeillgar a gofalgar. • Bod yn gryf yn gorfforol ac emosiynol i ddelio â gofynion y swydd. • Gallu rheoli a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
Bydd penodi unigolyn i'r swydd hon yn amodol ar 2 eirda boddhaol a gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ian Spencer, Rheolwr Tîm ( ian.spencer@conwy.gov.uk / 01492 577664)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr